Cynghorir y dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn symptomau'r dwymyn goch wneud y canlynol:
- Gweld eu meddyg teulu neu ffonio GIG 111 cyn gynted â phosibl
- Sicrhau bod eu plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a ragnodir gan y meddyg
- Cadw eu plentyn gartref, i ffwrdd o'r feithrinfa, ysgol neu'r gwaith a dilyn unrhyw ganllawiau a roddir gan eu meddyg teulu ynghylch pa mor hir y dylent barhau i fod yn absennol o'r lleoliadau hyn.