Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cwblhau'r arolwg?

Pan fyddwch yn ymuno â’r Panel, gofynnir i chi sut yr hoffech gwblhau’r arolwg. Mae dwy ffordd y gallwch wneud hyn:

  • Ar-lein
  • Dros y ffôn

Os byddwch yn dewis cwblhau’r arolwg ar-lein, byddwch yn cael gwahoddiad pob tair mis  ar ffurf neges e-bost i’r cyfeiriad e-bost a roesoch i ni. Yn y neges e-bost, bydd dolen bersonol i’r arolwg. Yna, gellir cwblhau’r arolwg yn eich amser eich hun erbyn y dyddiad cau a nodir yn y neges e-bost.

Cyn y dyddiad cau, os nad ydych wedi cael cyfle i ymateb, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost ac efallai yn eich ffonio neu’n anfon neges destun atoch hefyd (gyda’ch caniatâd) i’ch atgoffa o ddyddiad cau’r arolwg.

Os byddwch yn dewis cwblhau arolygon dros y ffôn, byddwn yn gofyn beth yw’r diwrnod gorau o’r wythnos a’r amser o’r dydd y dylem eich ffonio. Gall hyn newid dros amser os ydych yn dymuno. Yna, bydd cyfwelydd hyfforddedig o DJS Research yn eich ffonio pob tair mis o fewn yr amserlenni a ddewiswyd gennych. Bydd y cyfweliadau ffôn yn cael eu recordio at ddibenion hyfforddi ac ansawdd; bydd y rhain yn cael eu rheoli gan DJS Research a’u dileu dri mis ar ôl y cyfweliad. Am ragor o wybodaeth, ewch i hysbysiad preifatrwydd DJS Research.