Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydlu Panel?

Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi’r cyhoedd fel partner allweddol yn eu penderfyniadau ac mae am sicrhau bod gan breswylwyr yng Nghymru lais mewn polisïau ac arferion sy’n effeithio arnyn nhw, eu cymunedau, a’u cenedl.

Bydd y Panel hwn yn rhoi mecanwaith i Iechyd Cyhoeddus Cymru o allu cyfleu llais y cyhoedd yn rheolaidd.

Rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r hyn y mae’n ei wneud.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Bydd cyfranogwyr yn gallu tynnu’n ôl o’r Panel ar unrhyw adeg, ac nid oes rhaid iddynt roi rheswm dros dynnu’n ôl. Ni fyddai penderfyniad i dynnu’n ôl yn effeithio ar eich hawliau, unrhyw driniaeth iechyd gyfredol neu yn y dyfodol, neu unrhyw wasanaethau rydych chi’n eu derbyn. Mae ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn rhan annatod o’r ddeddfwriaeth genedlaethol yng Nghymru o’r enw ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ (WBFGA). Drwy’r ddeddfwriaeth hon, mae’n ofynnol i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru feddwl am effaith eu penderfyniadau yn y tymor hir; gweithio’n well gyda phobl, cymunedau, a’i gilydd; ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae WBFGA yn nodi’r cyhoedd fel rhanddeiliad allweddol wrth wneud penderfyniadau.