Neidio i'r prif gynnwy

A fydd fy nghyfranogiad yn y Panel yn cael ei gadw'n gyfrinachol?

Mae eich ymatebion gonest yn bwysig i ni. Bydd yr holl wybodaeth a roddwch fel rhan o’r Panel yn gwbl gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fydd yn cael ei storio gyda’ch enw (h.y. bydd yn cael ei rhoi o dan ffugenw.

Ni fydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chynnwys mewn adroddiadau sy’n defnyddio’r canfyddiadau yn nodi pwy ydych chi. Bydd eich data yn cael eu storio gan DJS Research, sef Cwmni Ymchwil i’r Farchnad cymeradwy. Gyda’ch caniatâd, gellir rhannu’r holl ddata (gan gynnwys data personol adnabyddadwy) ag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau parhad y Panel.

Ni fydd eich atebion yn cael eu rhannu â neb ond tîm y prosiect, ONI BAI eich bod yn datgelu bwriad i niweidio’ch hun neu rywun arall, gwybodaeth sy’n nodi y gallai rhywun beri risg difrifol o niwed i chi neu’r bwriad i gyflawni gweithred o derfysgaeth. Byddem yn trafod hyn â chi cyn sôn wrth unrhyw un arall.