Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am mpox a sut i amddiffyn eich hun a'r rhai o'ch cwmpas

 

Mpox fel arfer yn salwch ysgafn, hunangyfyngol, sy'n gwella o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, gall achosi salwch difrifol mewn rhai unigolion.

Gall unrhyw un gael mpox, ac mae'n cael ei lledaenu drwy gyswllt agos, croen â chroen. Mae ymchwil iechyd cyhoeddus yn awgrymu ei bod ar hyn o bryd yn lledaenu'n bennaf mewn rhwydweithiau rhywiol rhyng-gysylltiedig ymhlith dynion hoyw, deurywiol, a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion.

Ar y dudalen hon cewch ragor o wybodaeth am mpox, a sut i amddiffyn eich hun a'r rhai o'ch cwmpas.

 

Cynulliadau mawr a digwyddiadau

Rydym yn gwybod y gall rhai pobl fod yn poeni am fynd i gynulliadau mawr neu wyliau. Dyma ganllaw i'r digwyddiadau hyn a ddatblygwyd gan Prepster a'r Love Tank a all helpu:

Canllaw i ddigwyddiadau Balchder gan Prepster, The Love Tank a Chymdeithas Sefydliad Balchder Ewrop.

 

 

 

 

 

Byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori pawb sy'n bwriadu mynd i wyliau neu ddigwyddiadau mawr i archwilio eu hunain yn drylwyr cyn gadael am unrhyw symptomau, a ffonio 111, meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol os ceir unrhyw symptomau. Os ydych yn gwybod eich bod wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â mpox, ystyriwch beidio â mynd i'r digwyddiad. Bydd hyn yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.