Neidio i'r prif gynnwy

Pertwsis (y pas)


Cynnwys

Gwybodaeth Cyffredinol
Pwy sy'n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?
Triniaeth
Pa mor gyffredin ydyw?
Atal
Lleihau'r effaith yng Nghymru

 

Mae pertwsis, a elwir 'y pas' hefyd, yn glefyd bacterol heintus iawn o'r llwybr anadlu ac mae'n cael ei ledaenu drwy anadlu defnynnau a gaiff eu rhyddhau gan berson heintiedig pan fydd yn siarad, peswch neu disian.

Mae'r haint yn dechrau fel peswch annifyr sydd, fel arfer o fewn wythnos i bythefnos, yn mynd yn hyrddiau o besychu (ysbeidiau). Gall hyn yn aml bara am ddau i dri mis.

Ni fydd gan bob claf, yn enwedig babanod ifanc, yr 'hwpian' nodweddiadol. Efallai y bydd cyfnod o chwydu yn dilyn y pyliau o besychu.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pertwsis ar gael gan Galw Iechyd Cymru.

Gellir gweld nifer yr hysbysiadau o bertwsis yng Nghymru o'n  dangosfwrdd data rhyngweithiol

Anfonir samplau o gyfran o achosion a hysbyswyd ar gyfer profion labordy. Mae nifer yr achosion o bertwsis a gadarnhawyd yn y labordy yng Nghymru yn ôl blwyddyn a grŵp oedran ar gael o'r ddogfen: Achosion o bertwsis a gadarnhawyd yn y labordy.

 

Pwy sy'n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?

Babanod sydd â'r cyfraddau uchaf o haint pertwsis. Plant oedran ysgol yn aml yw ffynhonnell yr haint ar gyfer brodyr a chwiorydd iau gartref. Mae pertwsis hefyd yn digwydd ymhlith y glasoed ac oedolion.

Gall pertwsis fod yn haint difrifol iawn yn enwedig i fabanod o dan 6 mis oed a gall arwain at gymhlethdodau difrifol a hyd yn oed marwolaeth. Mae dros 50% o fabanod sydd â'r clefyd yn cael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae salwch difrifol yn llai cyffredin ymhlith plant hŷn ac oedolion; fodd bynnag, mae ganddynt y potensial i drosglwyddo haint i fabanod sy'n agored i niwed.

 

Triniaeth

Mae pertwsis yn cael ei drin â gwrthfiotigau ond bydd y salwch yn dal i bara am 6-8 wythnos hyd yn oed gyda thriniaeth. Rhoddir gwrthfiotigau i gysylltiadau agos achosion o bertwsis a'r rhai sy'n arbennig o agored i niwed, heb eu brechu, wedi'u brechu'n rhannol neu'n llai na phump oed fel mesur ataliol.

 

Pa mor gyffredin ydyw?

Mae pertwsis yn cyrraedd uchafbwynt bob tair i bedair blynedd a thros y blynyddoedd diwethaf mae nifer mwy o achosion yn cael eu cadarnhau mewn grwpiau oedran hŷn.

Gellir gweld nifer yr hysbysiadau o bertwsis yng Nghymru o'n dangosfwrdd data rhyngweithiol.

Anfonir samplau o gyfran o achosion a hysbyswyd ar gyfer profion labordy. Mae nifer yr achosion o bertwsis a gadarnhawyd yn y labordy yng Nghymru yn ôl blwyddyn a grŵp oedran ar gael o'r ddogfen:  Achosion o bertwsis a gadarnhawyd yn y labordy.

 

Atal

Mae pertwsis yn glefyd y gellir ei atal drwy frechu. Mae'r brechlyn pertwsis wedi'i gynnwys yn y ‘Pigiad 6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/Hep B a roddir i fabanod yn 2, 3 a 4 mis oed.

Gan fod imiwnedd rhag pertwsis yn pylu dros amser, mae pigiad atgyfnerthu wedi'i gynnwys hefyd yn y pigiadau atgyfnerthu ‘4 mewn 1’ cyn oed ysgol (a roddir rhwng 3 a 5 oed) gyda'r nod o leihau salwch mewn grwpiau oedran hŷn a thrwy hynny'n lleihau trosglwyddo pertwsis i fabanod heb eu brechu neu wedi'u brechu'n rhannol.

Oherwydd y cynnydd sylweddol yng nghyfraddau pertwsis yn ystod 2011/12, mae rhaglen frechu wedi'i sefydlu i gynnig brechu pertwsis i bob mam feichiog yn y DU o wythnos 16 beichiogrwydd.Mae hyn er mwyn helpu i amddiffyn eu babanod newydd-anedig rhag y pas nes eu bod yn ddigon hen i gael eu brechiadau arferol sy'n dechrau o 8 wythnos oed.

Mae cwmpas imiwneiddio pertwsis ymhlith menywod beichiog ar gael yn yr adroddiadau:

(.doc, 0.5MB)

Mae rhagor o wybodaeth am imiwneiddio, gan gynnwys brechu rhag pertwsis ar gael o'r we-dudalen Brechlynnau i blant.

 

Lleihau'r effaith yng Nghymru

Un o rolau pwysig Iechyd Cyhoeddus Cymru yw casglu a dehongli data am lefelau clefyd heintus ym mhoblogaeth Cymru.

Mae heintiau allweddol, gan gynnwys y pas, o dan wyliadwriaeth barhaus er mwyn canfod tueddiadau sylweddol, gwerthuso mesurau atal a rheoli a rhybuddio gweithwyr proffesiynol a sefydliadau priodol ynghylch bygythiadau clefydau heintus.

Y dull mwyaf effeithiol o reoli'r pas (pertwsis) yw drwy gynnal lefelau uchel o imiwneiddio ymhlith grwpiau agored i niwed neu boblogaethau cyfan.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at hyn drwy waith y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) a Thimau Diogelu Iechyd Lleol. Mae'r rhain yn cefnogi Llywodraeth Cymru i bennu cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau imiwneiddio, cefnogi BILlau i reoli gwasanaethau lleol a chyflawni targedau, a chefnogi Ymarfer Meddygol ac Ymddiriedolaethau sy'n darparu gwasanaethau.

Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi achosion lleol ac achosion sylweddol o'r pas a mynd ar drywydd yr achosion hyn er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ymhlith pobl sy'n agored i niwed.

Caiff nifer y rhai sydd wedi'u brechu a chwmpas imiwneiddio a argymhellir yn ystod plentyndod eu monitro a'u hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarterol ac yn flynyddol yn lleol ac yn genedlaethol yn yr adroddiadau COVER.