Neidio i'r prif gynnwy

Ffliw a COVID-19: Canllaw i oedolion

 

Brechiadau ffliw a COVID-19

Canllaw I oedolion hydref/gaeaf 2022-23

Awst 2022

 

Mae ffliw a COVID-19 yn cael eu hachosi gan feirysau sy'n lledaenu'n hawdd iawn a gallant achosi i rai pobl fynd yn ddifrifol wael a marw.

Mae pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol yn wynebu risg uwch. Y gaeaf hwn rydym yn disgwyl gweld COVID-19 a ffliw yn mynd ar led ar yr un pryd, felly mae'n bwysig iawn cael eich amddiffyn i leihau'r risg o gael eich derbyn i'r ysbyty oherwydd yr heintiau hyn.

Sicrhewch nad ydych yn oedi cael eich brechlyn ffliw neu COVID-19 os cewch eich cynghori i wneud hynny.

 

A fydd y brechlynnau hyn yn fy amddiffyn?

Cael brechlyn ffliw blynyddol yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn dal a lledaenu'r ffliw. Mae brechlyn COVID-19 yn lleihau’r siawns y byddwch yn dioddef o salwch difrifol neu'n marw o COVID-19.

Mae amddiffyniad o'r ddau frechlyn fel arfer yn dechrau tua phythefnos ar ôl eu cael. Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch yn dal i gael ffliw neu COVID-19, ond mae'n debygol y bydd eich symptomau'n fwy ysgafn.

Mae'n bwysig cael eich brechlynnau COVID-19 diweddaraf. Os ydych wedi colli dos atgyfnerthu blaenorol ac yn gymwys yr hydref hwn, dim ond dos atgyfnerthu'r hydref y bydd angen i chi ei gael.

 

Ar bwy y mae angen y brechlynnau hyn?

Mae ffliw a COVID-19 yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, yn feichiog, neu'n hŷn. Rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o'r heintiau hyn os byddwch yn eu dal.

Tabl 1 Pwy sy'n gymwys i gael y brechlynnau hyn yng Nghymru?

 

Brechlyn ffliw

Brechlyn COVID-19

Menywod beichiog

Pobl 50 oed neu drosodd

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor sy'n cynyddu'r risg

O 6 mis oed

O 5 oed

Pobl sy'n byw mewn cartref gofal

Pobl ag anabledd dysgu

Pobl â salwch meddwl difrifol

 

Mae'r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechlynnau ffliw a COVID-19 i helpu i amddiffyn eu hunain a'r bobl o'u hamgylch.

 

Brechlyn ffliw

Brechlyn COVID-19

Pobl sy'n byw gyda rhywun â system imiwnedd wannach

O 6 mis oed

O 5 oed

Gofalwyr 16 oed a throsodd

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Yr holl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys pwy sy'n gymwys i gael brechlynnau ffliw a COVID-19, ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau

 

Os nad ydych wedi cael y brechiad COVID-19 neu ffliw yn flaenorol

Mae pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig prif gwrs o frechlyn COVID-19.

Os nad ydych wedi cael un o'ch dau ddos cyntaf o'r brechlyn dylech wirio gyda'ch bwrdd iechyd i gael rhagor o wybodaeth: llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19

Nid oes rhaid i chi fod wedi cael brechlyn ffliw yn flaenorol i fod yn gymwys.

Mae GIG Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn cael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.

 

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw neu COVID-19?  

Prin iawn yw'r bobl na allant gael y brechlynnau hyn. Ni ddylid rhoi'r brechlynnau i unrhyw un sydd wedi cael:

  • adwaith alergaidd difrifol wedi'i gadarnhau (anaffylacsis) i unrhyw un o gynhwysion y brechlynnau, neu
  • adwaith alergaidd difrifol wedi'i gadarnhau (anaffylacsis) i ddos blaenorol o'r un brechlyn ffliw neu COVID-19.

Rhowch wybod i'r person sy'n rhoi'r brechlynnau i chi os oes gennych alergedd difrifol i wyau. Gallwch gael brechlyn ffliw o hyd ond efallai y bydd angen trefniadau arbennig.

 

Os ydw i'n sâl, a ddylwn gael y brechlyn/brechlynnau?

Os ydych yn sâl, mae'n well aros nes y byddwch wedi gwella cyn cael brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn gallu mynd i'ch apwyntiad brechu, dylech ganslo ac aildrefnu'r apwyntiad.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Fodd bynnag, os ydych wedi cael COVID-19 yn ddiweddar, cyn cael eich brechlyn bydd angen i chi aros:

• am bedair wythnos o leiaf os ydych dros 18 oed neu mewn grŵp sy'n wynebu risg uwch o salwch difrifol o COVID-19, neu

•  am 12 wythnos o leiaf os ydych o dan 18 oed ac nad ydych mewn grŵp sy'n wynebu risg uwch o salwch difrifol o COVID-19.

Os oes amheuon gennych, trafodwch hyn gyda'r person sy'n rhoi'r brechiad i chi.

 

Sut i gael eich brechlyn ffliw

Os ydych yn oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu'n 50 oed neu drosodd, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol. Os ydych yn gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, gofynnwch i'ch cyflogwr ble i gael eich brechlyn.

Dylai staff cartref gofal a gofalwyr cartref siarad â'u fferyllfa gymunedol ynghylch cael eu brechlyn ffliw.

Os ydych yn credu y gallech fod wedi colli'r gwahoddiad am frechlyn ffliw, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch fferyllfa gymunedol.

 

Sut i gael eich brechlyn COVID-19

Bydd y GIG yn rhoi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae'n bwysig mynd i'ch apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd. Os nad ydych wedi mynd i'ch apwyntiad neu wedi colli eich apwyntiad, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Bydd manylion cyswllt ar eich llythyr apwyntiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael eich brechiad yn: llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19

 

Menywod beichiog

Os ydych yn feichiog, bydd cael eich brechlynnau ffliw a COVID-19 yn helpu i'ch amddiffyn chi a'ch babi yn y groth yn erbyn risgiau hysbys haint ffliw a COVID-19. Mae'r brechlyn ffliw hefyd yn helpu i amddiffyn eich babi yn ystod y pedwar i chwe mis cyntaf o fywyd, pan all y ffliw fod yn ddifrifol iawn.

Cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich brechiadau COVID-19 a ffliw diweddaraf (os yw'r brechlyn ffliw ar gael). Gallwch gael y rhan fwyaf ohonynt ar yr un pryd â brechlyn y pas a roddir i fenywod beichiog o 16 wythnos o feichiogrwydd. Fodd bynnag, peidiwch ag oedi eich brechlynnau dim ond er mwyn gallu eu cael ar yr un pryd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiadau i fenywod beichiog yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau

 

Ffrwythlondeb a brechlynnau COVID-19

Nid oes tystiolaeth i awgrymu y bydd y brechlyn COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb mewn menywod neu ddynion. Nid oes angen i chi osgoi beichiogi ar ôl cael y brechlyn COVID-19.

 

Pryd y dylwn gael y brechlynnau hyn?  

Mae brechlynnau ffliw fel arfer ar gael o fis Medi bob blwyddyn. Yn ddelfrydol, dylech gael eich brechlyn ffliw cyn i'r ffliw ddechrau mynd ar led. Gallwch ei gael yn ddiweddarach, ond mae'n well i chi ei gael cyn i'r ffliw fynd ar led.

Yn 2022, bydd pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref yn cael eu cynnig o fis Medi, o leiaf tri mis ar ôl eich dos diwethaf.

 

A ellir rhoi'r brechlynnau hyn ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gellir rhoi brechlynnau ffliw a COVID-19 ar yr un pryd â'r rhan fwyaf o frechiadau eraill. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod hyn gyda chi yn eich apwyntiad.

Efallai y bydd rhai pobl yn gallu cael eu brechlynnau ffliw a COVID-19 ar yr un pryd os yw'n bryd cael y ddau, os ydynt ar gael ac y gellir eu rhoi gyda'i gilydd. Fodd bynnag, peidiwch ag oedi eich brechiadau dim ond er mwyn gallu eu cael ar yr un pryd.

 

A fyddaf yn cael unrhyw sgil-effeithiau o'r brechlynnau hyn?  

Fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau'n gweithio drwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn yn y diwrnod cyntaf neu ddau yn cynnwys:

  • teimlad trwm neu ddolur lle cawsoch y pigiad
  • poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i ffliw
  • teimlo’n flinedig
  • cael pen tost/cur pen a
  • thwymyn ysgafn.

Efallai y byddwch yn cael twymyn ysgafn am ddau neu dri diwrnod ar ôl cael brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol ac efallai y bydd oherwydd bod gennych haint neu salwch arall. Os ydych yn poeni, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs. Gallwch gymryd parasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na'r dos a argymhellir), a gorffwyswch i’ch helpu i deimlo’n well.

Cafwyd adroddiadau am gyflwr eithriadol o brin yn ymwneud â chlotiau gwaed a gwaedu anarferol ar ôl brechu gyda brechlyn AstraZeneca. Mae hyn yn cael ei fonitro'n ofalus ond nid yw’r ffactorau risg ar gyfer y cyflwr hwn yn glir eto.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn dweud bod cyfradd llawer is o glotiau gwaed a gwaedu anarferol gydag ail ddosau a dosau atgyfnerthu. Oherwydd y risg uchel o gymhlethdodau a marwolaeth o COVID-19, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Gofal Iechyd (MHRA), Sefydliad Iechyd y Byd a'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi dod i'r casgliad bod y cydbwysedd o blaid brechu ar gyfer y mwyafrif helaeth o oedolion.

Os byddwch yn profi unrhyw rai o'r canlynol o tua phedwar diwrnod i bedair wythnos ar ôl eich brechiad, dylech gael cyngor meddygol ar frys.

  • Pen tost/cur pen newydd, difrifol nad yw'n cael ei helpu gan boenladdwyr arferol neu sy'n gwaethygu.
  • Pen tost/cur pen anarferol sy'n ymddangos fel pe bai'n gwaethygu wrth orwedd i lawr neu blygu drosodd neu gall ddigwydd ar y cyd â:
    • golwg aneglur, cyfog a chwydu
    • anhawster gyda’ch lleferydd, neu
    • wendid, teimlo'n gysglyd neu ffitiau.
  • Cleisio neu waedu pigiad pin newydd, heb esboniad.
  • Diffyg anadl, poen yn y frest, chwyddo yn eich coesau, neu boen cyson yn y stumog.

Un sgil-effaith anghyffredin ar ôl y brechlyn COVID-19 yw chwarennau chwyddedig yn y gesail neu'r gwddf ar yr un ochr â'r fraich lle cawsoch y brechlyn. Gall hyn bara tua 10 diwrnod, ond os yw'n para'n hirach cysylltwch â'ch meddygfa i gael cyngor. Os ydych i fod i gael prawf sgrinio'r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl y brechlyn, soniwch eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn mynd i gael y prawf.

Mae achosion o lid y galon (o'r enw myocarditis neu bericarditis) wedi'u nodi ar ôl rhai brechlynnau COVID-19. Gwelwyd yr achosion hyn yn bennaf mewn dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl eu brechu. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl hyn wedi gwella ac yn teimlo'n well ar ôl gorffwys a thriniaeth syml.

Dylech gael cyngor meddygol ar unwaith os oes gennych y canlynol:

• poen yn y frest

• prinder anadl, neu

• galon sy'n curo'n gyflym, yn dirgrynu neu'n curo fel gordd. 

Mae sgil-effeithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin iawn.

Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich meddygfa. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt am ba frechlynnau rydych wedi'u cael er mwyn iddynt allu eich asesu'n llawn.

 

Rhoi gwybod am sgil-effeithiau

Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy chwilio am y cynllun Yellow Card, drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Er mwyn helpu i atal feirysau rhag lledaenu, cofiwch:

EI DDAL

Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch yn tisian neu'n pesychu

EI DAFLU I'R BIN

Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl

EI DDIFA

Drwy olchi eich dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo

Pwyntiau allweddol

  • Gall ffliw a COVID-19 fod yn ddifrifol iawn.
  • Brechu yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn yn erbyn y feirysau hyn.
  • Yn 2022, mae brechlynnau ffliw a brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 ar gael o fis Medi.
  • Os ydych yn gymwys, mynnwch eich brechlynnau. Peidiwch â cholli'r cyfle!

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau a gynigir yng Nghymru yn:  icc.gig.cymru/brechlyn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau, gan gynnwys eu cynnwys a sgil-effeithiau posibl yn: medicines.org.uk/emc. Bydd angen i chi roi enw'r brechlyn yn y blwch chwilio.

Gallwch roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, ewch i 111.wales.nhs.uk, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs neu ffoniwch GIG 111 Cymru.

I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk/amdanomni/eichgwybodaeth

I gael y daflen hon mewn fformatau eraill, ewch i:  icc.gig.cymru/brechlynnau/adnoddau-hygyrch

 

© Iechyd Cyhoeddus Cymru,

Awst 2022 (gyda chydnabyddiaeth i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU)

Fersiwn 1