Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws SARS-CoV-2 ac mae’n fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol.
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau gwanhau dros amser. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i ymestyn eich amddiffyniad ac yn rhoi amddiffyniad tymor hwy i chi.
Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu i leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19.
Bydd brechlyn atgyfnerthu COVID-19 yn cael ei gynnig i’r canlynol:
• pob oedolyn dros 16 oed
• menywod beichiog
• y rhai 12 oed a throsodd sy’n wynebu risg neu sy’n gyswllt aelwyd rhywun imiwnoataliedig
Yn ystod gwanwyn 2022 bydd pigiad atgyfnerthu ychwanegol yn cael ei gynnig i’r canlynol:
• pobl 75 oed a throsodd
• preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
• y rhai 12 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wedi’i gwanhau
Os ydych yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn byddwch yn cael cynnig hyn rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2022, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos diwethaf o’r brechlyn. Nid oes angen i chi fod wedi cael pigiad atgyfnerthu i fod yn gymwys.
Os nad ydych wedi cael eich pigiad atgyfnerthu cyntaf cyn mis Mawrth 2022 yna dim ond pigiad y gwanwyn fydd ei angen cyn yr hydref.
Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae’n bwysig mynd i’ch apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd. Os na allwch fynd, rhowch wybod i’r tîm archebu fel y gellir rhoi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt ar gael ar eich llythyr apwyntiad.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechiad ar gael yn: llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn cywir i chi a all fod yr un fath neu’n wahanol i’r brechlynnau a gawsoch o’r blaen.
Mae’r brechlynnau hyn wedi’u rhoi i filiynau o bobl yn y DU – maent yn ddiogel ac yn cael eu hargymell i’w defnyddio fel pigiadau atgyfnerthu.
Fel gyda’ch dosau blaenorol, mae sgil-effeithiau cyffredin yr un peth ar gyfer pob brechlyn COVID-19 a ddefnyddir yn y DU, ac maent yn cynnwys:
• cael teimlad trwm, poenus ac anesmwyth yn y fraich ar ôl y pigiad am sawl diwrnod ar ôl y brechiad
• teimlo’n flinedig
• pen tost/cur pen
• poenau cyffredinol neu symptomau ysgafn tebyg i ffliw
Efallai y cewch dwymyn ysgafn am ddau i dri diwrnod, ond mae tymheredd uchel yn anarferol a gall awgrymu bod gennych haint COVID-19 neu haint arall. Gallwch gymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) a gorffwyswch i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â chymryd mwy na’r dos arferol.
Mae’r symptomau hyn fel arfer yn para llai nag wythnos. Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, edrychwch ar 111.wales.nhs.uk, ac os oes angen ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Os nad yw 111 ar gael yn eich ardal chi, ffoniwch 0845 46 47.
Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. Mae galwadau i 0845 46 47 yn costio 2c y funud ynghyd â thâl arferol eich darparwr ffôn.
Ledled y byd, cafwyd hefyd achosion prin iawn o lid y galon o’r enw myocarditis neu bericarditis a adroddwyd ar ôl brechlynnau COVID-19 Pfizer a Moderna.
Gwelwyd yr achosion hyn yn bennaf mewn dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl eu brechu. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl hyn wedi gwella ac yn teimlo’n well ar ôl gorffwys a thriniaethau syml.
Dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith os byddwch, ar ôl brechiad, yn profi:
• poen yn y frest
• prinder anadl
• teimlo’r galon yn curo’n gyflym, yn dirgrynu neu’n curo fel gordd
Prin iawn yw’r bobl na ddylent gael pigiad atgyfnerthu.
Os cawsoch sgil-effeithiau difrifol ar ôl unrhyw ddos blaenorol, efallai y cewch eich cynghori i osgoi neu ohirio brechu pellach. Dylech drafod hyn gyda’ch meddyg neu arbenigwr.
Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau ar-lein trwy ddilyn: https://coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ap y Cerdyn Melyn.
Gellir, mae modd rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill gan gynnwys brechlynnau ffliw. I gael y cyngor diweddaraf ar frechlynnau COVID-19 a’u rhoi gyda brechlynnau eraill ewch i: icc.gig.cymru/brechlyncovid
Mae angen i chi gael brechlyn atgyfnerthu hyd yn oed os ydych eisoes wedi’ch heintio â COVID-19. Os ydych wedi profi’n bositif am coronafeirws yn ddiweddar, dylech:
Ceir rhagor o wybodaeth a thaflenni i gleifion yn: icc.gig.cymru/brechlyncovid
Bydd brechiad COVID-19 yn lleihau’r siawns y byddwch yn dioddef o COVID-19. Gall gymryd ychydig ddyddiau i’ch corff ddatblygu rhywfaint o amddiffyniad o’r pigiad atgyfnerthu.
Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol – efallai y bydd rhai pobl yn dal i gael COVID-19 er iddynt gael brechiad, ond dylai hyn fod yn llai difrifol.
Os nad ydych wedi cael un o’ch dau ddos cyntaf o’r brechlyn dylech eu cael cyn gynted â phosibl. Bydd angen y pigiad atgyfnerthu arnoch o hyd ond bydd yr amseriad yn dibynnu ar pryd y cawsoch eich dau ddos cyntaf.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am frechlynnau COVID-19, gan gynnwys eu cynnwys a'u sgîl-effeithiau posibl,yn: coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk/productinformation.
Mae mwy o wybodaeth a thaflenni cleifion ar gael yn: icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19
Gallwch roi gwybod am amheuaeth osgîl-effeithiau ar-lein yn coronavirus-yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn.
gael gwybod sut mae’r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i: 111.wales.nhs.uk/AboutUs/Yourinformation?locale=cy
I archebu rhagor o gopïau neu fformatau amgen o’r daflen hon, ewch i: iechyscyhoedduscymru.org/adnoddau-gwybodaeth-iechyd