Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ddylai gael y brechlynnau COVID-19?

Mae pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru 12 i 15 oed yn cael cynnig y brechiad COVID-19.

Mae’n bwysig iawn i’r nifer bach o blant a phobl ifanc sy’n debygol o fynd yn sâl gyda COVID-19.

Maent yn cynnwys y rhai sydd â: 

Niwroanableddau difrifol
System imiwnedd gwan –  y rhai nad yw eu systemau imiwnedd yn gweithio cystal. Hefyd y rhai sy’n byw gyda rhywun â system imiwnedd gwan. 

Anableddau dysgu dwys  a lluosog neu ddifrifol.

Bod ar y gofrestr  anabledd dysgu.

Y rhai sy’n byw gyda  syndrom Down. 

Mae dolen i’r rhestr lawn o gyflyrau ar gael yn yr adran   Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?