Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghylch pryd  a ble i gael eich brechu. 
Siaradwch â’ch rhiant neu ofalwr am yr hyn sy’n dda  ac yn ddrwg am y brechiad  a phenderfynu beth sydd  orau i chi.
Ar ddiwrnod yr apwyntiad, gwisgwch ddillad llac fel ei bod yn hawdd cyrraedd rhan uchaf eich braich. 
Cyn i chi gael y brechiad, peidiwch â bod ofn gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os oes ofn nodwyddau arnoch neu os ydych yn teimlo’n bryderus, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi eich brechlyn. Bydd yn deall ac yn eich cefnogi.