Neidio i'r prif gynnwy

E-ddysgu COVID-19: Modiwl gwybodaeth graidd a Modiwl sy'n benodol i frechiad - Ar gael

Mae’r MHRA bellach wedi cymeradwyo brechiad Pfizer BioNTech COVID-19. Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) wedi adolygu ei ddeunyddiau hyfforddi yn erbyn y data diogelwch brechiadau ac effeithiolrwydd yn ogystal â Chanllaw y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar grwpiau blaenoriaeth ar gyfer COVID-19.

Mae modiwl e-ddysgu brechiad Pfizer BioNTech COVID-19 bellach ar gael. Gall imiwneiddwyr gael gafael ar y modiwl hwn drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR). Am ragor o wybodaeth gan gynnwys sut y gall staff heb fod yn weithwyr GIG Cymru gael gafael ar y modiwl ewch i:

http://www.immunisation.wales.nhs.uk/elearning (Mewnrwyd)

www.wales.nhs.uk/immslearning (y Rhyngrwyd)

Mae’r ESR ac arweinwyr awdurdodau lleol wedi cael gwybod bod y modiwlau hyfforddi hyn ar gael. Maent wedi cael eu briffio ar sut i gefnogi staff os oes unrhyw broblemau o ran cael mynediad at adnoddau e-ddysgu imiwneiddio COVID-19.

Mae PHE wedi diweddaru’r adnoddau canlynol:

Mae'r adnoddau hyn, ynghyd â dogfennau canllaw brechiad COVID-19 ar gael yma: http://www.immunisation.wales.nhs.uk/covid-19-vaccination-programme (GIG Cymru yn unig)

Mae microwefan allanol (ar gyfer y cyhoedd) hefyd: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/. Mae gan y safle hwn dudalen adnoddau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Mae adnoddau hyfforddi COVID-19 hefyd yn cael eu llwytho i fyny yma.

Sesiwn Holi ac Ateb rhaglen frechu COVID-19

Bydd y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn cynnal digwyddiad holi ac ateb byw arall drwy Microsoft Teams i roi cyfle i'r rhai sy'n ymwneud â chyflwyno rhaglen frechu COVID-19 ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr. Nid yw'r sesiynau hyn yn disodli’r hyfforddiant, ond y gobaith yw y byddant yn gwella ac yn atgyfnerthu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r rhaglen frechu COVID-19 y bydd y rheini sy'n bresennol eisoes wedi'u dilyn drwy fodiwlau e-ddysgu COVID-19. Cynhelir y sesiwn hon ddydd Mawrth 15 Rhagfyr rhwng 1pm a 2pm, ac mae'n agored i bob imiwneiddiwr, cysylltwch â'ch cydlynydd imiwneiddio am ragor o fanylion.