Neidio i'r prif gynnwy

Niwmococol

Disgrifiad: Mae’r modiwl e-ddysgu rhyngweithiol hwn yn rhannu’r prif negeseuon am glefydau niwmococol a’r rhaglen frechu rhag clefydau niwmococol yng Nghymru.

Addas ar gyfer: Holl staff y GIG sy'n gyfrifol am roi brechiadau ar gyfer clefydau niwmococol neu roi cyngor ynghylch hynny.

Hyd: 30 munud

Cofrestru: Mae posib i staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r ESR. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs, cliciwch yma.

I staff nad oes ganddynt fynediad at ESR, neu nad ydynt yn gweithio o fewn GIG Cymru, bydd angen iddynt gael enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad at wefan  Dysgu@Cymru. I wneud cais am enw defnyddiwr a chyfrinair, anfonwch neges at  elearning@wales.nhs.uk. Dywedwch wrthym beth ydy'ch enw, teitl eich swydd a ble rydych chi’n gweithio, a byddwn yn creu cyfrif i chi. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost sy'n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i gofrestru eich hun.

Allweddi Cofrestru Dysgu@Cymru: I gael allwedd cofrestru er mwyn cael mynediad at y modiwl, cliciwch yma.