Neidio i'r prif gynnwy

FluTwo

Wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2023-24.
Mae’r wybodaeth yn y fersiwn hon o FluTwo yn seiliedig ar y canllawiau presennol, dyddiedig 15.08.2023.

Disgrifiad: Mae FluTwo yn ddiweddariad clinigol ar ffliw a brechu rhag y ffliw ac mae wedi'i ddiweddaru ar gyfer tymor 2023-24. Mae'r fersiwn hon o FluTwo yn seiliedig ar ganllawiau presennol ar 15.08.2023. Mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, mae FluTwo wedi'i addasu i ddiwallu anghenion defnyddwyr orau, ac mae bellach yn cynnwys pedwar modiwl:

Modiwl 1: Cyflwyniad i ffliw a brechu rhag ffliw

Modiwl 2: mae hwn yn fodiwl allanol UKHSA yn seiliedig ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant Imiwneiddio – i'w gwblhau gan imiwneiddwyr newydd yn unig

Modiwl 3: Modiwl ffliw oedolion

Modiwl 4: Modiwl ffliw plant

Ni fydd angen i bawb gwblhau'r pedwar modiwl. Bydd hyn yn dibynnu ar eich profiad blaenorol a’ch maes gwaith.

Yn addas ar gyfer: Mae FluTwo yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, gan gynnwys Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n imiwneiddio yn erbyn ffliw neu'n darparu cyngor imiwneiddio rhag ffliw.

Hyd: Modiwlau 1,3,4 wedi'u cyfuno – 90 munud. Gall Modiwl 2 (i'w gwblhau gan imiwneiddwyr newydd) gymryd hyd at 10 awr.

Cofrestru: Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy'r ESR. I gael rhagor o ganllawiau ar sut i gael mynediad at y cwrs cliciwch yma.

I staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy'n gweithio y tu allan i GIG Cymru bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnoch i gael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I wneud cais am enw defnyddiwr a chyfrinair cysylltwch â'r  Ddesg Gymorth eAteb ar eAteb@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02920 905444 neu mae sgwrsio byw ar gael ar y safle. Dywedwch wrthym eich enw, teitl swydd a gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy'n gorffen â .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch yma i hunangofrestru

Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru: Cliciwch ar enw'r cwrs a gofynnir i chi am allwedd gofrestru. Yr allwedd gofrestru ar gyfer practisau meddygon teulu yw eich cod W wedi'i ddilyn gan ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill os nad ydych yn siŵr beth yw'ch allwedd, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth eAteb@wales.nhs.uk.

Mae canllaw defnyddiwr Dysgu@Cymru ar gael yma.