Neidio i'r prif gynnwy

Rotafeirws

Haint yw’r rotafeirws sy'n achosi dolur rhydd difrifol a thaflu i fyny mewn babanod a phlant ifanc.

Ar y dudalen

 

Cefndir

Haint yw’r rotafeirws sy'n achosi dolur rhydd difrifol a thaflu i fyny mewn babanod a phlant ifanc. Mae'r feirws fel rheol i’w weld yn ystod y gaeaf a dechrau'r gwanwyn. Mae'r rhan fwyaf o blant yn gwella gartref o fewn wythnos, ond efallai y bydd angen i rai plant weld meddyg. O bryd i'w gilydd mewn achosion difrifol, gall y symptomau arwain at ddadhydradu (colli hylifau'r corff) sy'n gofyn am driniaeth ysbyty.

Brechlyn y rotafeirws

Rhoddir brechlyn y rotafeirws i helpu i amddiffyn eich babi rhag haint y rotafeirws.

Mae bron pob plentyn wedi cael y rotafeirws erbyn eu bod yn bump oed. Mae nifer yr achosion o’r rotafeirws yr adroddir amdanynt wedi gostwng dros 70% ers i’r brechlyn gael ei gyflwyno i raglen plentyndod y DU.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y brechlyn a’r afiechyd mae’n amddiffyn yn ei erbyn yn: GIG 111 Cymru - Brechiadau (tudalen allanol).

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Cynigir brechlyn y rotafeirws i'ch babi yn wyth a 12 wythnos oed.

 

Am y brechlyn

Rhoddir y brechlyn fel hylif yn syth i geg y babi er mwyn iddo ei lyncu.

Enw brand y brechlyn a ddefnyddir yn y DU yw Rotarix. Mae'r brechlyn hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn llawer o wledydd ers dros 10 mlynedd. Gweler y ddolen isod am fwy o wybodaeth.

Mae angen dau frechlyn y rotafeirws ar eich babi o leiaf bedair wythnos ar wahân i gael ei amddiffyn yn llawn. Os bydd yn methu'r dos cyntaf, gall ei gael hyd at 15 wythnos oed. Os bydd yn methu'r ail ddos, gall ei gael hyd at 24 wythnos oed. Ni ddylid defnyddio Rotarix® mewn plant dros 24 wythnos oed.

Sgîl-effeithiau brechlyn y rotafeirws

Weithiau gall babanod sy'n cael y brechlyn fynd yn aflonydd ac yn bigog, a gall rhai ddatblygu dolur rhydd ysgafn.

Yn anaml iawn (rhwng 1 a 6 o bob 100,000 o fabanod sy’n cael eu brechu), gall brechlyn y rotafeirws effeithio ar goluddyn (bowel) babi, a gall ddatblygu anhwylder perfedd prin o’r enw llawesiad. Mae hyn yn achosi rhwystr yn y coluddyn.

Dyma symptomau llawesiad:

  • peon bol;
  • bod yn sâl; a
  • pŵ sy'n edrych fel jeli cyrens coch yng nghewyn y babi

Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i: GIG 111 Cymru - Brechiadau (tudalen allanol) neu Rotarix.

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin yn GIG 111 Cymru - Cwestiynau cyffredin y brechlyn Rotafeirws (tudalen allanol).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd