Neidio i'r prif gynnwy

Haemophilus influenzae math b/Meningococaidd grŵp C (Hib/MenC)

Mae heintiau Haemophilus influenzae math b (Hib) a grŵp meningococol C (MenC) (Neisseria meningitidis grŵp C) yn ddifrifol ac yn gallu bod yn angheuol. Gall y ddau achosi llid yr ymennydd a sepsis (gwenwyn yn y gwaed).

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae heintiau Haemophilus influenzae math b (Hib) a grŵp meningococol C (MenC) (Neisseria meningitidis grŵp C) yn ddifrifol ac yn gallu bod yn angheuol. Gall y ddau achosi llid yr ymennydd a sepsis (gwenwyn yn y gwaed).

Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Gall sepsis fygwth bywyd ac arwain at niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau.

Hib

Mae Hib yn haint bacterol a achosir gan Haemophilus influenzae math b a all achosi sawl salwch difrifol, yn enwedig mewn plant ifanc.                 

Llid yr ymennydd yw'r salwch mwyaf difrifol a achosir gan Hib. Hyd yn oed gyda thriniaeth, bydd un o bob 20 o blant â llid yr ymennydd Hib yn marw.

Mae’n bosibl y bydd gan y rhai sy’n goroesi broblemau hirdymor, fel colled clyw, cael ffitiau ac anableddau dysgu. 

MenC

Mae 12 grŵp hysbys o facteria meningococol (Neisseria meningitidis), a'r mwyaf cyffredin yw grwpiau A, B, C, W ac Y.

Mae heintiau bacterol MenC yn achosi llid yr ymennydd gan amlaf, neu wenwyn gwaed difrifol (sepsis) a all ledaenu trwy'r corff.

Mae llid yr ymennydd a sepsis yn salwch difrifol iawn sydd angen triniaeth feddygol frys.

Rhagor o wybodaeth am arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis: GIG 111 Cymru - Meningitis (tudalen allanol).

Brechlyn Hib/MenC

Y brechlyn Hib/MenC yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i ddiogelu rhag llid yr ymennydd a sepsis a achosir gan facteria Hib neu MenC

Dim ond yn erbyn llid yr ymennydd a heintiau eraill a achosir gan Hib a MenC y gall y brechlyn amddiffyn. Ni all atal llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlyn ac afiechydon yn: GIG 111 Cymru - Brechlyn Hib/MenC (tudalen allanol).

Mae'r brechlynnau canlynol hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol rhag mathau eraill o facteria meningococol:

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Imiwneiddiadau babanod

Fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol yng Nghymru, cynigir y brechlyn Hib/MenC i bob babi yn 12 i 13 mis oed.        

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn Hib/MenC, neu os nad ydych yn siŵr ynghylch pryd dylai eich babi neu'ch plentyn ei gael, gallwch gysylltu â'ch meddygfa am gyngor.

 

Am y brechlyn Hib/MenC

Bydd babanod fel arfer yn cael y brechlyn Hib/MenC fel un pigiad yn rhan uchaf eu braich neu’r goes (clun). Bydd plant hŷn yn cael y brechlyn Hib/MenC fel pigiad yn rhan uchaf eu braich fel arfer.

Mae'r brechlyn Hib/MenC yn rhoi hwb i'r amddiffyniad y mae plentyn eisoes wedi'i gael o'r cwrs cyntaf o frechiadau Hib, a dderbyniwyd yn y brechlyn 6-mewn-1 yn 8, 12 ac 16 wythnos oed, ac mae hefyd yn darparu'r dos cyntaf o'r brechlyn MenC.

Mwy o wybodaeth am y brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6-mewn-1).

Yr enw brand ar y brechlyn Hib/MenC sy’n cael ei roi yn y DU yw Menitorix.

Os yw'ch plentyn wedi methu unrhyw ddosau siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor.

Nid yw brechlyn Hib/MenC yn cael ei roi fel mater o drefn i blant dros 10 oed.

Sgîl-effeithiau brechlyn MenB

Mae’r brechlyn Hib/MenC yn ddiogel iawn ond, fel pob meddyginiaeth arall, gall fod â sgîl-effeithiau.        

Yr adweithiau mwyaf cyffredin i’r brechlyn Hib/MenC yw’r canlynol:

  • poen, chwyddo neu gochni ar safle'r pigiad
  • tymheredd uchel
  • piwis
  • diffyg archwaeth bwyd
  • cysglyd.

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael mwy o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn Hib/MenC neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gellir dod o hyd i rai adnoddau gwybodaeth cyhoeddus drwy ddilyn y dolenni isod.

 

Gwybodaeth bellach

GIG 111 Cymru - Cwestiynau cyffredin am y brechlyn Hib/MenC (tudalen allanol).

Mae Meningitis Now yn elusen genedlaethol llid yr ymennydd sydd wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig.

Mae Meningitis Research Foundation yn elusen flaenllaw yn y DU, Iwerddon a rhyngwladol sy'n dod â phobl ac arbenigedd ynghyd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.

Mae UK Sepsis Trust yn darparu gwybodaeth a newyddion am sepsis.