Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad yr eryr

Mae'r eryr (herpes zoster) yn cael ei achosi gan y feirws varicella zoster, a’r un feirws sy'n achosi brech yr ieir.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae'r eryr (herpes zoster) yn cael ei achosi gan y feirws varicella zoster, yr un feirws sy'n achosi brech yr ieir. Yn wahanol i glefydau heintus eraill, nid ydych yn ei ddal gan rywun arall. Cafodd y rhan fwyaf o bobl frech yr ieir pan oeddent yn ifanc. Gall y feirws a achosodd frech yr ieir aros yn eich corff am weddill eich bywyd heb i chi wybod ei fod yno. Yna gall y feirws ddod yn weithredol eto yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw'n hysbys pam yn union mae'n gwneud hyn, ond credir bod y rhan fwyaf o achosion yn cael eu hachosi drwy imiwnedd is (amddiffyniad yn erbyn heintiau a chlefydau), a allai fod oherwydd oedran, salwch, straen neu feddyginiaeth. 

Achosir yr eryr pan fydd nerf a'r croen o'i amgylch yn cael ei ailheintio gan y feirws, gan arwain at glystyrau o bothelli poenus, coslyd, yn llawn hylif. Gall yr hylif o'r pothelli hyn ledaenu brech yr ieir i'r rhai nad ydynt wedi'i gael. 

Os oes gennych yr eryr, ceisiwch osgoi: 

  • menywod beichiog nad ydynt wedi cael brech yr ieir yn y gorffennol 

  • pobl sydd â system imiwnedd wan (er enghraifft, pobl sy'n cael cemotherapi), a 

  • babanod llai na mis oed – oni bai mai eich babi eich hun ydyw, gan y dylai gael ei amddiffyn yn erbyn y feirws gan eich system imiwnedd. 

Mae'r eryr yn fwy cyffredin mewn oedolion dros 70 oed.  

Bydd tua 1 o bob 5 o bobl sydd wedi cael brech yr ieir yn datblygu'r eryr. Mae hyn yn golygu, bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, y bydd degau o filoedd o bobl yn cael yr eryr. Er y gall yr eryr ddigwydd ar unrhyw oedran, mae risg, difrifoldeb a chymhlethdodau'r eryr yn cynyddu gydag oedran. 

Bob blwyddyn mae nifer o bobl 65 oed a throsodd yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda'r eryr yng Nghymru.  

Mae brechlyn yr eryr yn helpu i'ch amddiffyn drwy roi hwb i'ch imiwnedd a lleihau eich risg o gael yr eryr. Os byddwch yn mynd ymlaen i gael yr eryr, efallai y bydd eich symptomau'n ysgafnach a'r salwch yn fyrrach. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn GIG 111 Cymru - Yr eryr (safle allanol) 

 

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Cyn mis Medi 2023, roedd brechiadau yr eryr ar gael ar y GIG i bob oedolyn yn eu 70au. 

O 1 Medi 2023, bydd yr oedran y gallwch gael eich brechu yn erbyn yr eryr yn newid, a gallwch gael eich amddiffyn o oedran cynharach. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef pwyllgor gwyddonol sy'n cynghori adrannau iechyd y DU ar imiwneiddio. 

Mae'r tabl yn dangos pwy sy'n gymwys i gael brechlyn yr eryr o 1 Medi 2023. 

Eich oedran 

A oes gennych system imiwnedd wan iawn? 

Pryd y byddaf yn cael brechlyn yr eryr? 

50 a throsodd  

Oes 

Ar eich pen-blwydd yn 50 oed neu ar ôl hynny. Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i drefnu apwyntiad.  

 

65 neu 70 

 

Nac oes 

Ar eich pen-blwydd yn 65 oed neu'n 70 oed neu ar ôl hynny.  Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i drefnu apwyntiad. 

 

70 (cyn 1 Medi 2023) i 79 (os nad ydych wedi cael brechlyn yr eryr) 

Nac oes 

Rydych yn gymwys. Trefnwch apwyntiad gyda'ch meddygfa. 
 

60 i 64  

Nac oes 

Cysylltir â chi pan fyddwch yn cael eich pen-blwydd yn 65 oed.  

 

66 i 69  

Nac oes 

Os cawsoch eich pen-blwydd yn 65 oed cyn 1 Medi 2023 cysylltir â chi pan fyddwch yn 70 oed.  

Os cawsoch eich pen-blwydd yn 65 oed ar ôl 1 Medi 2023 rydych yn dal i fod yn gymwys. Cysylltwch â'ch meddygfa am apwyntiad.  

Mae pobl rhwng 70 oed (cyn 1 Medi 2023) a 79 oed nad ydynt wedi cael brechlyn yr eryr yn y gorffennol eisoes yn gymwys i gael y brechlyn ac maent yn parhau'n gymwys hyd at eu pen-blwydd yn 80 oed. 

O 1 Medi 2023 bydd brechlyn yr eryr yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bobl sy'n cael eu pen-blwydd yn 65 a 70 oed. Maent yn gymwys i gael y brechiad ar eu pen-blwydd yn 65 neu'n 70 oed neu ar ôl hynny hyd at y diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 80 oed. 

Noder: Bydd pobl â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, oherwydd rhai canserau fel lewcemia neu lymffoma, rhai triniaethau fel steroidau, rhai meddyginiaethau, neu drawsblaniadau organau) nad ydynt wedi cael brechlyn yr eryr yn y gorffennol, yn gymwys i'w gael ar eu pen-blwydd yn 50 oed neu ar ôl hynny. Os oes gennych system imiwnedd wan iawn, nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer cael brechlyn yr eryr.  Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn cael y brechlyn cyn gynted ag y byddwch yn gymwys fel eich bod yn cael eich amddiffyn mor gynnar â phosibl. 

Dylai unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn yr eryr ond nad yw wedi ei gael eto fanteisio ar ei gynnig.  

Mae brechlyn yr eryr ar gael mewn meddygfeydd. Dylai eich meddygfa gysylltu â chi i drefnu apwyntiad pan fyddwch yn gymwys. Os na fyddant, neu os ydych yn credu y gallech fod wedi colli'r gwahoddiad, cysylltwch â nhw a dweud wrthynt eich bod yn credu ei bod yn bryd i chi gael brechlyn yr eryr.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am frechlyn yr eryr, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch nyrs practis. 

 

Ynglŷn â'r brechlyn 

Mae dau frechlyn yr eryr yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fel arfer, rhoddir brechlyn yr eryr fel pigiad yn y cyhyr yn rhan uchaf y fraich. 

Mae Zostavax yn frechlyn byw. Dim ond un dos sydd ei angen arnoch.  

Nid yw Shingrix yn frechlyn byw.  Bydd angen dau ddos o Shingrix arnoch. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig yr ail ddos o Shingrix tua chwe mis ar ôl y dos cyntaf. Os oes gennych system imiwnedd wan iawn, dylech gael eich ail ddos o Shingrix o leiaf wyth wythnos ar ôl y dos cyntaf. 

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlynnau hyn, gallwch ddarllen y taflenni canlynol i gleifion. 

Os ydych yn gymwys, gallwch gael y brechlyn ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Y tro nesaf y byddwch yn siarad â gweithiwr proffesiynol gofal iechyd, gofynnwch am frechlyn yr eryr. 

 

Sgîl-effeithiau

Mae sgil-effeithiau fel arfer yn eithaf ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir.  Dyma'r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin: 

  • poen a thynerwch ar safle'r pigiad 

  • pen tost/cur pen  

  • poenau yn y cyhyrau, a  

  • phoenau cyffredinol.  

Ar ôl y brechlyn Shingrix efallai y byddwch yn teimlo'n flinedig ac yn cael twymyn. Gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i helpu i wneud i chi deimlo'n well. Peidiwch â defnyddio peiriannau na gyrru os ydych yn teimlo'n sâl. 

Os ydych wedi cael y brechlyn â feirws byw wedi'i wanhau (Zostavax), gall brech neu bothelli bach ddatblygu lle rhoddwyd y pigiad (ond mae hyn yn brin). Os bydd hyn yn digwydd, gorchuddiwch y frech nes bod crachen yn ffurfio arni ac osgoi cyswllt â babanod newydd-anedig ac unrhyw un sydd â system imiwnedd wannach neu sy'n feichiog, yn enwedig os nad ydynt erioed wedi cael brech yr ieir. Gofynnwch am gyngor gan eich meddygfa. 

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin, anghyffredin a phrin, darllenwch y taflenni canlynol i gleifion. 

Os ydych yn pryderu am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (safle allanol). Mae galwadau am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau tybiedig brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn  www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card,  neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech ddysgu rhagor am frechlyn yr eryr neu'r clefydau y mae'n ei amddiffyn yn eu herbyn, mae amrywiaeth o wybodaeth ar gael (gweler isod). Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

I archebu copïau o'r taflenni hyn, ewch i'r dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd

 

Mwy o wybodaeth

GIG 111 Cymru - Yr eryr (safle allanol)