Neidio i'r prif gynnwy

Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?

Os yw eich plentyn yn chwe mis oed neu'n hŷn ac mae ganddo un o'r cyflyrau iechyd canlynol, mae'n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn gan ei fod yn wynebu risg uwch o gymhlethdodau o'r ffliw.

Mae'r cyflyrau yn cynnwys:

  • Diabetes
  • Problem gyda’r galon
  • Cwyn ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sy'n gofyn am anadlwyr neu dabledi steroid rheolaidd
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • Imiwnedd is oherwydd clefyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos pobl yn y grŵp hwn)
  • Afiechyd yr afu/iau
  • Wedi cael strôc neu strôc fach
  • Cyflwr niwrolegol
  • Dueg goll neu broblem gyda'r ddueg
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Pobl ifanc dros 16 oed (oedran ar 1 Medi 2022) sydd â Mynegai Màs y Corff o 40 neu uwch
  • Epilepsi
  • Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n ddigartref hefyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw.

Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt ym mlynyddoedd ysgol y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, neu yn eu meddygfa.