Neidio i'r prif gynnwy

Haemophilus influenzae math b/Meningococaidd grŵp C (Hib/MenC) - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae llid yr ymennydd a septisemia meningococol yn afiechydon hysbysadwy.

Hib

Mae afiechyd Hib fel arfer yn ymddangos fel llid yr ymennydd neu epiglotitis ac mae'n effeithio'n bennaf ar blant o dan bum mlwydd oed, ond gall effeithio ar unrhyw oedran. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau resbiradol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i bedwar diwrnod.

Afiechyd Meningococol

Mae meningococol fel arfer yn ymddangos naill ai fel llid yr ymennydd neu sepsis, neu gyfuniad o'r ddau, neu lid yr amrannau. Yn y DU, mae haint meningococol yn cael ei achosi gan amlaf gan y bacteriwm Neisseria meningitidis grŵp B, er y gall serogrwpiau eraill achosi afiechyd hefyd. Mae'r achosion ar eu huchaf ymhlith plant o dan flwydd oed, a hefyd ieuenctid rhwng 16 a 24 oed. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu gan ddafnau resbiradol ac mae ganddi gyfnod deor o ddau i saith diwrnod.

Brechlyn Hib/MenC

Yn dilyn cyflwyno’r brechlyn MenC yn llwyddiannus yn 1999, mae nifer yr achosion o afiechyd meningococol a achosir gan facteria grŵp C wedi gostwng dros 95% mewn grwpiau sydd wedi’u brechu, ac ychydig iawn o achosion o afiechyd MenC ymledol sydd bellach.

O fis Gorffennaf 2016 ymlaen, daeth y brechlyn MenC unfalens mewn babandod i ben. Ar hyn o bryd mae MenC yn cael ei roi mewn brechlynnau cyfun (brechlynnau Hib/MenC a MenACWY).

Ers cyflwyno imiwneiddiad Hib yn y DU, mae nifer yr achosion o’r afiechyd wedi gostwng. Yn 1998, dim ond 21 achos o Hib ymledol a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr ymhlith plant dan bump oed o gymharu ag 803 yn 1991.

Mae Menitorix yn frechlyn cyfun anweithredol ac mae'n cynnwys hydoddiant powdwr a thoddydd ar gyfer ailgyfansoddi ac wedyn pigiad.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy'n rheolaidd a'r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. MenC)

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Dileu'r brechlyn meningococaidd serogrwp C (MenC) ar gyfer babanod (WHC/2016/027) | LLYW.CYMRU

Newidiadau i'r Rhaglen Imiwneiddio Plant arferol (2006)

 

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau

Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi .

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Haemophilus influenzae type b (Hib) - Y Llyfr Gwyrdd, pennod 22

Meningococcal – Y Llyfr Gwyrdd, pennod 22

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau  yn y Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau tudalen.

Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol

Data a goruchwyliaeth