Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Imiwneiddio Cymru

 

Cynnwys:

 

Gwybodaeth am y Gynhadledd

Dyddiad: Dydd Mercher 24ain Ebrill 2024 
Lleoliad: Rhif 2. Capital Quarter, Caerdydd  

Mae'n bleser gan y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu gyhoeddi y bydd Cynhadledd Imiwneiddio Cymru (WIC) 2024 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 24ain Ebrill. Mae'r gynhadledd yn cyd-daro ag Wythnos Imiwneiddio'r Byd, gan bwysleisio'r ymdrechion ar y cyd sydd eu hangen i warchod cymunedau rhag afiechydon y mae posib eu hatal gyda brechiadau. 

 

Croeso i'r ffurflen gofrestru WIC 2024 

Bydd y gynhadledd eleni yn rhad ac am ddim i'w mynychu, fodd bynnag, bydd methu â rhoi rhybudd o ganslo (72 awr cyn y gynhadledd) neu beidio â phresenoldeb yn golygu ffi o £10 i'ch i'ch sefydliad perthnasol. 
 
Dyddiad Cau: Mae'r cofrestru ar gau nawr 
 
Byddwn yn cysylltu gyda'r gydweithwyr yn fuan ar ôl y dyddiad cau i gadarnhau eu lle ar y diwrnod. 

 

Cyflwyniadau poster

Mae posteri yn rhan bwysig o Gynhadledd Imiwneiddio Cymru gan helpu i rannu mentrau imiwneiddio ac arfer da o bob rhan o Gymru. 

Bydd e-bosteri’n cael eu harddangos ar sgriniau yn y gynhadledd a bydd pawb sy’n bresennol yn cael cyfle i’w gweld drwy gydol y dydd ac i bleidleisio dros eu hoff ddau boster. 

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi a bydd eu gwobr yn cael ei chyflwyno iddyn nhw a bydd cyfle i dynnu lluniau cyn i'r gynhadledd ddod i ben. 


Sut i gyflwyno E-boster ar gyfer Cynhadledd Imiwneiddio Cymru: 

Cyflwyno crynodeb ar gyfer Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2024 

E-bostiwch eich cyflwyniad i phw.vaccines@wales.nhs.uk erbyn 6pm, dydd Gwener 12 Ebrill 2024

Dylid e-bostio’r e-bosteri mewn fformat jpeg tirwedd, i alluogi eu chwarae ar ddolen ar sgriniau teledu yn y gynhadledd. Gall yr e-bosteri dynnu sylw at unrhyw agwedd ar imiwneiddio, gan gynnwys mentrau lleol i wella'r niferoedd sy'n cael eu brechu. 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich e-bosteri ac at gwrdd â chi ar y diwrnod. 

Pob lwc!

 

Gwobrau Mae Brechu yn Achub Bywydau

Bydd y Gynhadledd hefyd yn cynnwys y Gwobrau Mae Brechu yn Achub Bywydau (VSL) cyntaf. Mae’r Gwobrau VSL yn gyfle gwych i gydnabod, gwobrwyo a dathlu rhywfaint o’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n digwydd gyda’n rhaglen(ni) imiwneiddio ni yng Nghymru. 

Mae’r gwobrau cenedlaethol hyn yn agored i dimau ac unigolion sy’n gweithio ar unrhyw agwedd ar imiwneiddio yng Nghymru. 

Mae pedwar categori yng Nghwobrau VSL i ddewis o’u plith a gallwch enwebu eich hun neu rywun arall (unigol, tîm, neu sefydliad). 

Y categorïau ar gyfer y Gwobrau Mae Brechu yn Achub Bywydau yw: 

Mae'r ffurflenni enwebu yn syml i'w llenwi, a gallwch enwebu cymaint ag yr ydych chi’n dymuno. 

Dyddiad Cau: Mae'r enwebiadau ar gau nawr

Edrychwch ar enillwyr y llynedd yma: Cynhadledd Imiwneiddio Cymru 2023 (sharepoint.com) 

Anfonwch eich enwebiadau wedi’u cwblhau i phw.vaccines@wales.nhs.uk 

 

Cludiant a pharcio 

Cludiant 

https://www.gwr.com/stations-and-destinations/stations/cardiff-central 

https://www.nationalrail.co.uk/stations/cardiff-central/ 

https://tfw.wales/places/stations/cardiff-central 

https://www.nationalexpress.com/en 

 

Parcio 

Car Parking in Cardiff City Centre from just £2.50 (stdavidscardiff.com) 

Cardiff Car Parks • Find Car Parks in Cardiff • Visit Cardiff 

 

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o fanylion, gan gynnwys agenda'r gynhadledd, rhestr y siaradwyr, manylion y lleoliad a nawdd, cadwch lygad am ddiweddariadau i'r dudalen yma. 

Ar gyfer pob ymholiad am y gynhadledd, cysylltwch â phw.vaccines@wales.nhs.uk