Os ydych yn darllen hyn oherwydd eich bod yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad, mae'n bwysig eich bod yn cael help ar unwaith.
Os ydych yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad, gallwch:
- Ffonio gwasanaeth cymorth y Samariaid ar unrhyw adeg ar 116 123
- Ffonio PAPYRUS HOPELineUK ar 01925 572444 os ydych yn berson ifanc (neu os oes gennych bryderon am berson ifanc)
- Ffonio Llinell gymorth CALL (Cymru) ar 0800 132 737
- Mynd i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf a dweud wrth y staff sut rydych chi'n teimlo
- Cysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647
- Siarad â ffrind, aelod o'r teulu neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
- Gwneud apwyntiad brys i weld eich meddyg teulu
Mae ffynonellau defnyddiol eraill yn cynnwys:
- Gofal Galar Cruse, sy'n darparu cyngor a chymorth, llinell gymorth yn ystod y dydd 0808 808 1677
- Childline, y llinell gymorth 24 awr am ddim i blant a phobl ifanc sy'n wynebu unrhyw fath o broblem 0800 1111
- SOBS (Survivors of Bereavement by Suicide) Llinell gymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad 0844 561 6855 (9am i 9pm)