Neidio i'r prif gynnwy

Cryptosporidiwm

Mae Cryptosporidium yn barasit protosoad (un gell) sydd, os yw’n cael ei amlyncu, yn gallu achosi salwch o’r enw cryptosporidiosis.

Symptomau

Y prif symptom ymysg pobl yw dolur rhydd dyfrllyd, sy’n gallu amrywio o fod yn ysgafn i fod yn ddifrifol. 

Mae unrhyw un yn gallu cael ei heintio gan Cryptosporidium, er bod salwch yn fwyaf cyffredin ymysg plant rhwng 1 a 5 mlwydd oed. Bydd rhan fwyaf o bobl iach yn gwella heb driniaeth o fewn mis on allai achosi salwch difrifol mewn pobl gyda systemau imiwnedd gwan.

Atal

Gellir darganfod cryptosporidium yn dwr, bwyd, pridd neu ar arwynebau neu dwylo brwnt sydd gyda baw anifeiliaid neu pobl sydd gyda'r parasit.

Mae'r parasitiaid yn gallu gwrthsefyll clorin. Mae achosion o cryptosporidiosis wedi'u cysylltu ag yfed neu nofio mewn dŵr halogedig a chyswllt ag ŵyn heintiedig a lloi yn ystod ymweliadau â ffermydd agored.

Mae Uned Cyfeirio Cryptosporidiwm y DU, y labordy cyfeirio cenedlaethol ar gyfer Cryptosporidium ac sy’n darparu gwasanaethau a phrofion microbioleg arbenigol i’r DU gyfan, yn seiliedig ym Microbioleg Abertawe. 

Cyngor

Am cyngor meddygol, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru neu eich meddyg teulu.