Neidio i'r prif gynnwy

Sut gallaf helpu fy mhlentyn i gadw'n iach yn feddyliol?

Gofalwch amdanoch chi'ch hun 

Er eich bod yn poeni o bosib am les meddyliol eich plentyn, cofiwch nad eich bai chi ydyw.  Mae'n bwysig cymryd amser i ddatblygu a chynnal eich lles meddyliol eich hun. Bydd lles meddyliol da yn dylanwadu ar sut rydych yn ymdopi â'r pethau cadarnhaol a negyddol mewn bywyd, ac, yn y pen draw, eich gallu i ymateb i anghenion emosiynol a lles meddyliol eich plentyn.  Mae trefnu amser i wneud y pethau sy'n bwysig i chi yn ganolog i hyrwyddo a chynnal eich lles meddyliol.  Bydd hyn yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol a gallai fod yn rhywbeth mor syml â gwneud gweithgareddau fel darllen a cherdded, cysylltu ag eraill, neu goginio i'r teulu.  Beth bynnag yr ydych chi’n ei fwynhau, ceisiwch ddod o hyd i amser i'w wneud! 

https://youngminds.org.uk/blog/parents-tips-for-looking-after-yourself-in-lockdown/

https://youngminds.org.uk/supporting-parents-helpfinder/

Fodd bynnag, gall rhai ohonoch fod yn teimlo'n fwy gofidus na'r arfer a gall fod nifer o resymau dros hyn.  Os dyma'r achos, efallai y bydd sgwrsio â rhywun o gymorth i chi.  Gallwch gael gwybodaeth am nifer o sefydliadau drwy ddilyn y dolenni canlynol:  

https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up

https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/sut-wyt-ti/cymorth-pellach-a-sut-i-helpu-eraill-yn-ddiogel/

Gwrandewch ar eich plentyn, ymateb iddo a’i gysuro

Gofynnwch yn aml i'ch plentyn/plant, beth bynnag fo’u hoedran, sut maent yn teimlo. Bydd hyn yn eu helpu i sgwrsio am eu teimladau a gwybod bod rhywun yna i wrando arnynt bob amser. Mae'n bwysig iddynt wybod ei bod yn iawn i beidio â theimlo'n dda drwy'r amser.  Efallai y bydd yn haws dechrau sgwrs am 'deimladau' pan fyddwch wedi ymlacio ac yn gwneud gweithgaredd y mae'r ddau ohonoch yn ei fwynhau.  

Os nad yw eich plentyn am sgwrsio, efallai y gallech ddefnyddio gweithgaredd chwarae, megis chwarae rôl gyda theganau/doliau, tynnu lluniau neu chwarae gyda thoes chwarae, i helpu eich plentyn i gyfleu ei deimladau.  Os yw eich plentyn yn hŷn, efallai y byddwch am roi cynnig ar weithgareddau y mae'n hoffi eu gwneud er mwyn ennyn sgwrs, e.e. pobi teisen, cicio pêl, mynd am dro.    

Os oes ganddo unrhyw gwestiynau, gwrandewch arno ac ateb yn onest wrth roi cysur i'ch plentyn ar yr un pryd. 

Dangoswch ddiddordeb ym mywyd eich plentyn, gan werthfawrogi'r hyn y mae'n ei ddweud heb ei farnu.   Dylech weithio trwy ei emosiynau gyda'ch gilydd drwy eu cydnabod a chadarnhau bod emosiynau'n rhan arferol o fywyd.  Os ydych yn teimlo y gallwch ei helpu i gydnabod sut mae'n ymateb i'w emosiynau, efallai y gallwch ei alluogi i feddwl am pam mae'n ymateb yn y ffordd honno.  Wrth wneud hynny, efallai y gallwch ei helpu i feddwl am ymateb gwahanol a allai ei helpu i deimlo dan reolaeth. 

Ni waeth beth yw'r dull rydych yn ei ddewis, ceisiwch helpu eich plentyn neu unigolyn ifanc i fod yn agored am ei deimladau. Mae'r dolenni isod yn darparu awgrymiadau am sut i ddechrau sgyrsiau yn ogystal â nifer o gwestiynau efallai y byddwch am ystyried eu gofyn i'ch plentyn.

https://youngminds.org.uk/starting-a-conversation-with-your-child

https://youngminds.org.uk/starting-a-conversation-with-your-child/questions-i-wish-my-parents-had-asked-me/

Anogwch eich plentyn i roi cynnig ar bethau newydd a datblygu diddordebau 

Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn dod o hyd i bethau sy'n gwneud iddynt deimlo'n dda.  Maent i gyd yn wahanol ac nid oes un peth sy’n iawn i bawb. Bydd rhai plant yn mwynhau chwaraeon a bydd rhai eraill yn mwynhau celf neu ddarllen.  Efallai y bydd angen anogaeth ar blant a phobl ifanc i gymryd rhan ond cofiwch nid yw'n bwysig pa weithgaredd y maent yn cymryd rhan ynddo cyhyd â’i fod yn ddiogel a’u bod yn ei fwynhau.

Mae cael trefn mewn bywyd beunyddiol yn llesol i les meddyliol eich plentyn  

Mae trefn feunyddiol yn ein helpu i deimlo'n dda ac yn ddiogel.   Efallai na fydd yn haws gan nad yw bywyd wedi dychwelyd i'r 'hen arfer' eto, ond gall arferion syml mewn perthynas ag amser bwyd, amser gwely ac ymarfer corff rheolaidd, gan gynnwys chwarae, fod yn fuddiol i les meddyliol eich plentyn. 

Mae magu plant yn swydd werthfawr ond anodd.  Mae rhagor o gymorth ar gael am ddim i rieni plant o bob oedran drwy ddilyn y dolenni canlynol:  

https://solihullapproachparenting.com/online-course-for-parents/

www.inourplace.co.uk

Codau mynediad:  

  1. De Cymru: SWSOL 
  2. Gogledd Cymru: NWSOL 
  • 'Deall eich plentyn’ 0-19 oed (prif gwrs) a/neu  
  • 'Deall ymennydd eich plentyn yn ei arddegau' (cwrs byr)  

https://llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo/cadw-n-bositif?_ga=2.14735798.1271190444.1622191925-310445748.1603788229