Mae bywyd wedi bod yn heriol i bawb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac nid oes amheuaeth ei fod wedi cael effaith ar les meddyliol pobl. Fodd bynnag, dengys ymchwil fod effaith y pandemig a'r cyfyngiadau a roddwyd ar ein gweithgareddau beunyddiol wedi bod yn arbennig o niweidiol ar les meddyliol plant a phobl ifanc.
Er i rai plant a phobl ifanc adrodd eu bod wedi mwynhau treulio amser gartref gyda'u teulu, yn ôl pob golwg roedd yr effeithiau negyddol yn fwy na'r effeithiau cadarnhaol i lawer ohonynt.
Mae arolwg diweddar (Ionawr 2021), y gwnaeth oddeutu 20,000 o blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed ledled Cymru ymateb iddo, yn nodi'r canlynol:
Gwnaeth plant a phobl ifanc adrodd am rwystredigaeth a dicter tuag at effaith y pandemig ar eu bywydau.
Gwnaeth llawer o blant a phobl ifanc ddweud am deimlo'n unig a'u bod yn colli eu ffrindiau a'r ysgol.
Gwnaeth y grŵp oedran hŷn nodi bod yr effeithiau negyddol ar les wedi'u gwaethygu gan y straen ychwanegol o boeni am eu haddysg a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Roedd gorbryder cymdeithasol yn rhywbeth yr oedd plant hŷn a phobl ifanc yn dweud ei fod yn effeithio arnynt wrth feddwl am ddychwelyd i'r ysgol neu'r gwaith.
Gwnaeth plant hŷn a phobl ifanc hefyd ddweud bod colli perthnasau yn ystod y pandemig a'u hanallu i fynychu'r angladd wedi cael effaith negyddol ar eu lles meddyliol. Mae cymorth profedigaeth er mwyn eich helpu chi i helpu'ch plentyn ar gael yma:
https://www.cruse.org.uk/get-help/local-services/wales/wales/children-and-young-people-in-wales
Os yw eich plentyn yn rhy ifanc i gofio'r byd cyn y pandemig, efallai eich bod yn poeni am ei ddatblygiad cyffredinol, gan gynnwys ei allu i gymysgu a chyd-dynnu â phlant eraill wrth i'r byd ddychwelyd i'r arfer. Mae cyngor ar gael ar sut i gefnogi datblygiad eich plentyn a sut i'w helpu i feithrin cydberthnasau cadarnhaol yma:
https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/support-for-parents/look-say-sing-play/
Efallai y bydd eich pryderon yn wahanol gan ddibynnu ar oedran eich plentyn, ond, fel rhiant a gofalwr, mae yna bethau cyffredinol y gallwch eu gwneud i gefnogi lles meddyliol eich plentyn.
Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn methu ag ymdopi o safbwynt iechyd meddwl ac yn teimlo bod angen cymorth arno, mae gwybodaeth am sefydliadau sy'n gallu eich helpu ar gael drwy'r ddolen hon: