Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i'ch hun deimlo'n dda - i helpu'r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd

Gwneud i'ch hun deimlo'n dda - i helpu'r hyn rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd   

Mae pethau y gallwch eu gwneud er mwyn i chi deimlo'n well. Mae'n iawn chwerthin a mwynhau eich hun, hyd yn oed pan fydd pethau'n anodd ac yn wahanol. 

Gallech roi cynnig ar: 

  • Cysylltu â rhywun sy'n gwneud i chi wenu a chadw mewn cysylltiad.
  • Gwneud rhywbeth sy'n eich helpu i chwerthin ac yn tynnu eich sylw, a rhannu syniadau ag eraill.  
  • Herio eich hun neu ddod o hyd i rywbeth rydych yn ymgolli ynddo. Gall hyn olygu dysgu hobi newydd neu orffen rhywbeth rydych wedi bwriadu ei wneud o amgylch eich cartref. 
  • Ymarfer meddwl yn gadarnhaol. Bob dydd, ceisiwch sylwi ar dri pheth sydd wedi mynd yn iawn, boed fawr neu fach. Gallwch wneud hyn fel teulu a chadw dyddiadur. Mynnwch rai awgrymiadau o wefan Action for Happiness.
  • Helpu eraill drwy wirfoddoli o'ch cartref - gallwch ddod o hyd i gyfleoedd ar Gwirfoddoli Cymru