Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgareddau i dawelu'ch meddwl - i'ch helpu i deimlo'n well

Mae gweithgareddau tawelu yn bethau y gallwch eu gwneud i helpu eich hun i deimlo ychydig yn well. Byddant yn helpu os byddwch yn eu gwneud bob dydd, nid dim ond pan fyddwch yn teimlo wedi'ch llethu. Gallwch wneud gweithgareddau tawelu ar eich pen eich hun neu fel teulu:

Gallech roi cynnig ar: 

  • Ymarferion hunanofal - meddyliwch am yr hyn rydych yn ei wneud drosoch eich hun sy'n gwneud i chi deimlo'n well; efallai y bydd hynny'n golygu cael bath, mynd am dro, bwyta eich hoff fwyd, neu wrando ar gerddoriaeth. Gwnewch restr o syniadau a cheisiwch wneud o leiaf un bob dydd. 
  • Ymarferion ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar - mae'r rhain yn boblogaidd oherwydd bod ymchwil wedi dangos y gallant wella sut rydych yn teimlo a chodi eich hwyliau – beth am roi cynnig ar headspace? Mae pobl yn hoffi ymlacio mewn ffyrdd gwahanol, dewch o hyd i'r ffordd sy'n addas i chi. 
  • Siarad â theulu neu ffrindiau a all dawelu eich meddwl - meddyliwch am bwy sy'n gwneud i chi deimlo'n well a gwnewch bwynt o gysylltu â nhw, mae'n IAWN gofyn am dawelwch meddwl. Pan fyddwch yn teimlo bod gennych gefnogaeth, gall fod yn haws cefnogi eraill, hefyd.