Neidio i'r prif gynnwy

Awgrymiadau i rieni a gofalwyr

  • Pan fyddwch yn teimlo'n dawel eich meddwl, bydd hyn yn helpu eich plant i deimlo'n dawel eu meddwl hefyd Meddyliwch am bwy sy'n gwneud i chi deimlo'n well a gwnewch bwynt o gysylltu â nhw neu gwyliwch y fideo hwn gan Ganolfan Anna Freud.
  • Mae cynllunio eich diwrnod yn bwysig i chi a'ch plant. Mae llawer ohonom yn teimlo'n well gyda threfn, mae templedi ar gael ar-lein, dyma un syniad.
  • Mae ymarfer corff bob dydd yn dda i'n corff a'n meddwl. Beth am ymarfer corff gyda'ch gilydd fel teulu - rhowch gynnig ar sesiynau ymarfer corff dyddiol Joe Wickes.       
  • Mae cadw llygad ar yr hyn rydych chi a'ch plant yn ei fwyta yn gallu helpu chi i deimlo'n well. Os yw eich plant fel arfer yn derbyn prydau ysgol am ddim, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud hyn drwy gysylltu â'ch awdurdod addysg lleol. Darllenwch gyngor ar fwyta'n dda gartref.  
  • Gallwch ddefnyddio’r amser rydych chi’n ei dreulio’n paratoi bwyd i wneud gweithgareddau eraill i’ch helpu i gadw’n iach a hapus gartref. Defnyddiwch y cynlluniau bwyd, rhestri siopa, syniadau cyfnewid bwyd a ryseitiau #bwydteulu hyn fel ysbrydoliaeth.
  • Mae'n bwysig meddwl am faint rydych chi'n siarad am eich pryderon o flaen eich plant a sut y mae'n effeithio arnynt. Darllenwch gyngor ar siarad â phlant am y coronafeirws.
  • Herio eich hun neu ddod o hyd i rywbeth y gallwch ymgolli ynddo. Efallai y byddwch am roi cynnig ar hobi newydd gyda'ch plant - gallech drio taflenni lliwio ymwybyddiaeth ofalgar ar wefan Plant mewn Angen.
  • Ceisio ymarfer meddwl yn gadarnhaol. Bob dydd, ceisiwch sylwi ar dri pheth sydd wedi mynd yn iawn, boed fawr neu fach. Gallwch wneud hyn fel teulu a chadw dyddiadur,  edrychwch yma i gael syniadau.

Mae gennym dudalen plant a phobl ifanc gydag awgrymiadau a chyngor y gallech edrych arni gyda'ch plant.