Mae hefyd yn bwysig meddwl am eich anghenion sylfaenol, sef y pethau sydd eu hangen ar eich corff i gadw’n iach ac, o ganlyniad, sy’n eich gwneud i chi deimlo’n well.
- Cynllunio’ch diwrnod – yn yr un ffordd mae gan ysgolion a cholegau amserlenni, gallwch chi wneud un ar gyfer y cyfnod hwn. Gwisgwch yn barod ar gyfer y diwrnod!
- Arferion cysgu – efallai bod hi’n anodd cadw at amserlen gysgu dda gan nad ydych chi’n gorfod mynd i’r ysgol, ond ceisiwch wneud hynny, os oes modd.
- Cadw’n heini – mae ymarfer corff yn fuddiol i’ch corff a’ch meddwl. Gallwch wneud ymarferion gyda Joe Wicks neu Ffit Cymru.
- Tanwydd y corff – mae’r hyn rydych chi’n ei fwyta a’i yfed yn cael effaith fawr ar y ffordd rydych chi’n teimlo.