Neidio i'r prif gynnwy

Helpu eich plentyn i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol

Yn y sefyllfa bresennol, mae'n debyg y bydd eich plentyn yn rhyngweithio llai â theulu, ffrindiau a phlant o'r un oedran. Mae arbenigwyr yn credu y gall plant barhau i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol yn ystod y sefyllfa bresennol a'r peth pwysicaf y mae ei angen ar ein plant ar hyn o bryd yw rhieni cariadus, pwyllog, cefnogol a all fod yn fodelau rôl cadarnhaol a thrin ein gilydd â chariad a pharch.

Fel rhiant, mae nifer o ffyrdd o hyrwyddo sgiliau cymdeithasol eich plentyn, er y bydd hyn yn dibynnu ar oedran eich plentyn:

Rhannu – anogwch y plant i rannu a'u canmol pan fyddant yn gwneud hynny. Dewch o hyd i ffyrdd o ddangos rhannu â'ch plentyn neu aelodau eraill o'ch cartref yn rheolaidd er mwyn gweithredu fel model rôl da.

Cydweithredu – Mae gallu cydweithredu ag eraill i gyflawni nod cyffredin yn sgìl pwysig i'w ddysgu.  Mae chwarae neu wneud gorchwylion cartref gyda'ch plentyn yn amser gwych i ymarfer sgiliau cydweithredu. Gallech adeiladu tŵr o flociau neu weithio gyda'ch gilydd i roi trefn ar y sanau ar ôl golchi dillad.

Empathi - Pan fyddant tua 2 flwydd oed, bydd plant yn dechrau dangos empathi go iawn, gan ddeall sut y mae pobl eraill yn teimlo hyd yn oed pan nad ydynt yn teimlo'r un ffordd eu hunain.  Gallwch eu helpu i feithrin empathi drwy siarad am eich teimladau eich hun, fel eu bod yn gwybod y gall pobl eraill deimlo'n hapus neu'n drist, yn ddewr neu'n ofnus, yn falch neu'n ddig, yn union fel y maen nhw'n ei deimlo weithiau. Mae pethau hawdd i'w gwneud yn eich cartref yn cynnwys:

  • Darllen eu hoff lyfr a thrafod sut y gallai cymeriad fod yn teimlo mewn sefyllfa benodol
  • Eu canmol am fod yn garedig, neu dynnu sylw at enghreifftiau o bobl eraill sy'n garedig,
  • Chwarae gêm hwyl lle mae'n rhaid iddynt ddyfalu neu fynegi emosiwn heb eiriau neu drwy ddefnyddio ystumiau'r wyneb yn unig.

Gwrando'n astud – Bydd annog eich plentyn i ymarfer gwrando'n astud, fel y gall ddysgu i amgyffred yr hyn y mae rhywun arall yn ei ddweud, yn ei helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu iach. Un ffordd y gallwch chi wneud hyn yw drwy ddarllen llyfr gyda'ch plentyn, gan oedi bob hyn a hyn i ofyn iddo beth mae'n ei gofio am y stori hyd yma. 

Dilyn Cyfarwyddiadau – Mae llawer o rieni yn cytuno bod hwn yn sgìl pwysig iawn i'w ddysgu! Gall rhoi cyfarwyddiadau syml un ar y tro (e.e. rho dy deganau yn y blwch) helpu eich plentyn i ddysgu'r sgìl hwn. Pan fyddant wedi gwneud yr hyn rydych wedi'i ofyn iddynt ei wneud, rhowch ddiolch iddynt, eu canmol a dweud wrthynt sut y mae hyn wedi gwneud i chi deimlo e.e. Diolch am roi'r teganau yn y blwch pan ofynnais i ti.  Roedd hynny'n ddefnyddiol iawn, a gwnaeth i mi deimlo'n hapus.

Moesau – Mae pethau syml fel dweud os gwelwch yn dda a diolch yn mynd yn bell i wneud argraff dda a rhoi canmoliaeth pan fydd eich plentyn yn ymddwyn yn y ffordd rydych am iddo yn atgyfnerthu'r canlyniadau cadarnhaol hyn iddo.  Modelu'r ymddygiad ar gyfer eich plentyn yw'r ffordd orau o addysgu moesau a sgiliau cymdeithasol eraill i'ch plentyn. Os nad yw'n ymddwyn yn y ffordd rydych am iddo ei wneud, defnyddiwch hyn fel moment y gellir ei haddysgu a siarad amdano yn bwyllog, a dweud wrtho sut y mae'n gwneud i chi deimlo.

I gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad a datblygiad plant Cliciwch yma .