Neidio i'r prif gynnwy

Diddanu eich plentyn bach

Mae rhieni ledled Cymru wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd gwahanol o gadw eu plant yn brysur heb orfod eistedd o flaen sgrîn am gyfnodau hir. Mae llawer o syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau am weithgareddau i'w gwneud gyda'ch plentyn, dan do ac yn yr awyr agored. Gallwch ddod o hyd i weithgareddau a fydd yn helpu eu datblygiad corfforol, creadigrwydd, sgiliau cymdeithasol neu ddatrys problemau.

Rydym i gyd yn gwybod bod cadw'n egnïol yn dda i'n hiechyd corfforol a gall wneud i ni deimlo'n well hefyd. Beth ydych chi'n ei wneud gyda'ch teulu? Gallwch ymarfer corff drwy fynd allan am dro neu feicio gyda'r teulu. Mae pobl eraill wedi sefydlu cwrs rhwystrau yn eu gardd, helpu eu plentyn i ddysgu sgipio, neu ymarfer dal a thaflu neu gicio pêl. 

Mae llawer o adnoddau ar-lein ar gael y mae pobl yn eu defnyddio ar gyfer syniadau, dyma ychydig y gallwch roi cynnig arnynt.