Neidio i'r prif gynnwy

Cadw mewn cysylltiad

Yn union fel oedolion, mae'n dda i blant siarad â phobl eraill y tu allan i’r cartref ar yr adeg hon.  Bydd defnyddio offer fideo neu gyfryngau digidol arall i weld neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu a ffrindiau a siarad â nhw yn eu helpu i deimlo'n gysylltiedig ac yn gyfle i ymarfer eu sgiliau cymdeithasol.  Mae dysgu i ofyn cwestiynau perthnasol yn sgìl cymdeithasol pwysig arall i'w ddysgu. Yn dibynnu ar eu hoedran, anogwch nhw i feddwl am y math o gwestiynau yr hoffent eu gofyn, hyd yn oed os yw'n ddim mwy na “Beth wyt ti wedi bod yn ei wneud heddiw?  Wnes di ei fwynhau?”

Mae cynnwys neiniau a theidiau neu oedolion pwysig eraill ym mywyd eich plentyn bach yn eu trefn amser gwely yn ffordd wych arall o gadw mewn cysylltiad. Gallech drefnu amser i ffonio a darllen stori amser gwely gyda'ch gilydd neu ofyn i ffrindiau a theulu recordio fideo o'u hunain yn darllen un o hoff straeon eich plentyn, fel un o straeon amser gwely CBeebies.