Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – nid ydych ar eich pen eich hun

Nid yw pob cartref yn fan diogel. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n bwysig nad yw'r rhai sy'n ddioddefwyr ac yn oroeswyr pob math o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn teimlo eu bod ar eu pen eu hunain. Mae sawl math o gam-drin, gan gynnwys cam-drin seicolegol o'r enw rheolaeth drwy orfodaeth, cam-drin economaidd, trais corfforol a rhywiol a ffurfiau eraill fel anffurfio organau cenhedlu benywod, trais sy'n seiliedig ar anrhydedd a chamfanteisio'n rhywiol.

 

Cyffredinol

  • Os credwch eich bod chi a / neu eich plant mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu.  Mae'r heddlu yn dal i ymateb i alwadau brys. Os oes angen cymorth distaw arnoch, ffoniwch 999 wedi'i ddilyn gan 55.
  • Mae Llinell Gymorth Genedlaethol Byw Heb Ofn yma i'ch cefnogi chi, ffoniwch 0808 80 10 800. Gallwch hefyd siarad â rhywun ar unrhyw adeg o'r dydd drwy eu gwasanaeth sgwrsio byw. Gallant eich cefnogi yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn unrhyw ieithoedd eraill drwy ddefnyddio LanguageLine, neu drwy eu gwasanaeth testun Type Talk ar 1800108088010800.
  • Mae SMS brys yn darparu gwasanaeth neges destun i bobl fyddar, trwm eu clyw a phobl â nam ar eu lleferydd yn y DU i anfon negeseuon SMS i wasanaeth 999 y DU lle bydd yn cael ei drosglwyddo i'r Heddlu.
  • Mae dioddefwyr cam-drin domestig yn cael gadael eu cartref i ddianc rhag eu camdriniwr a / neu i ofyn am gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud, a bydd llochesau yn aros ar agor.

 

Cyflawnwyr

  • Mae cael cais i aros gartref, y tu allan i'ch trefn arferol, yn eich ynysu ac yn achosi straen. Os ydych yn cyflawni Cam-drin Domestig neu'n poeni am eich ymddygiad, gallwch gael cymorth gan Respect UK.

 

Dioddefwyr/Goroeswyr - awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel

  • Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i gadw'n ddiogel
  • Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ond byddwch yn ymwybodol o'ch diogelwch eich hun ac y gall eraill fod yn gwrando
  • Cadwch fag wedi'i bacio gyda gwefrydd ffôn. Sicrhewch fod allanfeydd yn glir, cynlluniwch eich llwybr dianc a chadwch allweddi sbâr yn ddiogel.
  • Siaradwch â chymydog/cymdogion dibynadwy a chytuno ar signal argyfwng, fel troi'r goleuadau ymlaen/diffodd y goleuadau neu agor ffenestri penodol os ydych yn teimlo mewn perygl.
  • Pan fyddwch gartref, cadwch eich ffôn symudol wedi'i wefru, gyda digon o gredyd a rhifau llinell gymorth wedi'u cadw arno. Byddwch yn ymwybodol o ystafelloedd gydag arfau neu beryglon. Osgowch alcohol.
  • Os yw eich gweithle wedi bod yn fan diogel rhag y cam-drin rydych yn ei brofi gartref, siaradwch â'ch cyflogwr am ffyrdd o gadw mewn cysylltiad fel bod eich gwaith yn dal i ddarparu rhyw fath o rwyd ddiogelwch.

 

Iechyd a Llesiant

  • Gall eich iechyd a'ch llesiant newid yn ystod y cyfnod hwn. Gall cadw pellter ac ynysu, ymhlith pethau eraill, sbarduno gorbryder ac atgofion sydyn.
  • Os ydych fel arfer yn gweld therapydd, cysylltwch â'r therapydd i weld a yw'n gallu cynnig sesiynau i chi dros y ffôn neu drwy apwyntiadau fideo
  • Cymerwch egwyl yn rheolaidd o'r cyfryngau cymdeithasol a diffodd hashnodau neu ymadroddion a allai fod yn frawychus neu'n sbarduno.
  • Mae gan Beat UK help a chymorth ar gyfer pryderon am fwyta: BEAT UK
  • Mae plant yn profi cam-drin domestig hefyd; siaradwch â nhw am bwy maent yn cysylltu â nhw ar-lein, a gofynnwch am gymorth os oes gennych bryderon am eu llesiant meddyliol a chorfforol eu hunain: MIND
  • Dylid cadw at y trefniadau cyswllt llys, ond gellid eu defnyddio i'ch rheoli. Mae Rights of Women yn rhoi cyngor pellach.
     

Cymorth i'r Gymuned

  • Peidiwch cadw'n dawel. Os ydych yn pryderu am rywun rydych chi'n meddwl sy'n dioddef cam-drin domestig, anogwch nhw i ffonio 999 mewn argyfwng. Sicrhewch nad ydych yn rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus, a pheidiwch â mynd at gyflawnwr i drafod ei ymddygiad.
  • Cofiwch fod pobl o bob oed yn profi Cam-drin Domestig. Efallai na fydd gan bobl hŷn, y rhai â phroblemau iechyd presennol, ac eraill yn y grŵp ‘amddiffyn’ mwyaf agored i niwed fynediad i gymorth ar-lein. Cadwch lygad am bob aelod o'ch cymuned.
     

Adnoddau ychwanegol

  • Cymorth i Ferched Cymru - cymorth a gwybodaeth i fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig
  • Safelives - help a chymorth i fenywod sy'n dioddef trais domestig          
  • Women Connect First - help a chymorth gyda phwyslais ar rymuso menywod duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME)
  • Calan DVS - help a chymorth i unigolion neu deuluoedd sy'n dioddef trais domestig
  • Cymorth i Fenywod Cyfannol - help a chymorth i fenywod sy'n dioddef trais domestig
  • Childline - help a chymorth i bobl ifanc a phlant
  • Gweithredu dros Blant - cyngor a chymorth i bobl ifanc sy'n profi cam-drin domestig
  • ManKind - menter sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddynion sy'n dioddef problemau iechyd meddwl
  • Refuge UK - help a chymorth i fenywod, dynion a phlant sy'n dioddef trais domestig
  • Llinell Gymorth i Ddynion - cyngor a chymorth i ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig