Neidio i'r prif gynnwy

Nid wyf yn barod i roi'r gorau iddi – beth yw fy opsiynau?

Sigaréts electronig

Os nad ydych yn barod i roi'r gorau iddi, dylech ystyried newid i sigaréts electronig. Ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod sut y mae fepio yn effeithio ar eich risg o gael coronafeirws neu allu eich corff i ymdopi â'r feirws. Fodd bynnag, mae fepio yn llai niweidiol na pharhau i smygu. Dylech brynu sigaréts electronig o'ch archfarchnad leol neu ddosbarthwr ar-lein dibynadwy. Ni ddylid rhannu sigaréts electronig â phobl eraill.

 

Lleihau eich defnydd o sigaréts

Os nad ydych yn barod i roi'r gorau iddi eto ac yn amharod i newid i sigarét electronig, ystyriwch sut y gallech leihau nifer y sigaréts rydych yn eu smygu y diwrnod. I wella effeithlonrwydd eich ysgyfaint ac i leihau eich risg o gael eich heintio gan coronafeirws dylech geisio rhoi'r gorau iddi o fewn ychydig wythnosau.

Awgrymiadau ar gyfer lleihau nifer y sigaréts rydych yn eu smygu:

  • Gosodwch gynllun i'ch hun gyda dyddiad rhoi'r gorau iddi a faint rydych am dorri i lawr bob dydd neu wythnos cyn y dyddiad rhoi'r gorau iddi.
  • Defnyddiwch NRT (nicotine replacement therapy) sy'n gweithredu'n gyflym, fel gwm neu losen yn lle sigaréts. Gellir prynu'r rhain o'ch archfarchnad leol. Mae'n ddiogel defnyddio NRT wrth leihau nifer y sigaréts yr ydych yn eu smygu.
  • Gofynnwch i bobl yn eich cartref am eu cymorth, e.e. os ydych yn byw gyda smygwr, ewch ati i dorri i lawr gyda'ch gilydd a gosod yr un dyddiad ar gyfer rhoi'r gorau iddi.
  • Rhowch eich sigaréts, matsis, taniwr a'ch blwch llwch o'r golwg pan na fyddwch smygu, e.e. mewn cwpwrdd.
  • Ystyriwch yr adegau o'r dydd a'r hyn rydych yn ei wneud pan fyddwch yn fwyaf tebygol o deimlo fel smygu a meddyliwch am ffyrdd y gallwch dynnu eich sylw neu newid eich arfer.
  • Ymrwymwch i smygu yn yr awyr agored i ddiogelu eich anwyliaid.