Neidio i'r prif gynnwy

Campylobacter

Credir bod y rhan fwyaf o achosion o’r Campylobacter yn rhai ysbeidiol ac mae’r llwybrau trosglwyddo’n parhau i fod yn ansicr. Mae Campylobacter yn haint milheintiol, h.y. mae’n haint sy’n cael ei drosglwyddo i bobl gan anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid.

Mae rôl cynhyrchion anifeiliaid, bwydydd eraill, dŵr ac amlygiadau nad ydynt yn fwyd yn parhau i gael ei harchwilio.Caiff Campylobacter ei gydnabod hefyd fel achos aml o ‘ddolur rhydd teithwyr’. 

Pwy sy’n ei gael a pha mor ddifrifol ydyw?

Gall unrhyw un gael ei heintio gan Campylobacter. Bydd haint dynol yn deillio fel arfer o fwyta neu drafod cig amrwd neu gig sydd heb ei goginio’n ddigonol (dofednod fel arfer) neu o draws-halogi wrth baratoi bwyd. Gall haint hefyd ddeillio o yfed dŵr heb ei drin ac iâ neu o laeth heb ei basteureiddio, neu o gyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid anwes wedi’u heintio.

Er ei fod yn annymunol iawn, yn anaml iawn y bydd y salwch yn angheuol yn y byd datblygedig, hyd yn oed ymhlith babanod a phobl oedrannus.

Yn anaml iawn, gall rhai canlyniadau hirdymor ddeillio o haint Campylobacter. Gall rhai pobl gael arthritis yn dilyn campylobacteriosis; gall eraill ddatblygu clefyd prin sy’n effeithio ar nerfau’r corff ac sy’n cychwyn sawl wythnos ar ôl salwch y dolur rhydd. Bydd y clefyd hwn, a elwir yn syndrom Guillain-Barré, yn digwydd pan fydd system imiwnedd unigolyn yn cael ei "sbarduno" i ymosod ar nerfau’r corff ei hunan, a gall arwain at barlys sy’n para sawl wythnos ac sydd angen gofal dwys fel arfer.

Amcangyfrifir bod tua un o bob 1000 o bob achos o campylobacteriosis yr adroddir amdano yn arwain at syndrom Guillain-Barré. 

Triniaeth

Ni fydd angen triniaeth benodol ar y mwyafrif o gleifion a byddant yn gwella’n llwyr. Mae triniaeth wrthfiotig effeithiol ar gael ar gyfer achosion cymhleth neu achosion anarferol o ddifrifol.

Pa mor gyffredin ydyw?

Campylobacter yw’r achos bacteriol mwyaf cyffredin o glefyd coluddol heintus yn y byd diwydiannol. Mae’r rhan fwyaf o achosion yn ysbeidiol ac maent yn gysylltiedig â chig dofednod ffres. Fodd bynnag, mae achosion sy’n deillio o fwyd yn anghyffredin gan nad yw Campylobacter yn lluosi mewn bwyd. Mae achosion mawr fel arfer yn gysylltiedig â llaeth amrwd neu laeth nad yw wedi cael ei basteureiddio’n ddigonol a chyflenwadau dŵr halogedig.

Mae achosion o’r haint Campylobacter yn fwy cyffredin yn hwyr yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r hydref.

Mae mwy o wybodaeth am arolygu heintiau Campylobacter yng Nghymru ar gael o ficrowefan Diogelu Iechyd GICCC trwy ddilyn y ddolen hon: cyfraddau ac arolygu Campylobacter yng Nghymru.

Atal

Mae Campylobacterau yn hollbresennol yn yr amgylchedd ac mae dofednod yn arbennig o dueddol o gario’r bacteria heb fynd yn sâl eu hunain (cytrefu). Fodd bynnag, dim ond nifer fach o’r bacteria sydd eu hangen i achosi salwch ymhlith pobl a gall traws-halogi bwydydd parod â chig amrwd fod yn llwybr heintio pwysig.

Mae mesurau atal yn cynnwys trin cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn gywir, pasteureiddio llaeth yn ddigonol (ac osgoi llaeth a chynhyrchion llaeth sydd heb eu pasteureiddio) a defnyddio gweithdrefnau trafod, paratoi, coginio a storio hylan ar gyfer cigoedd amrwd a chynhyrchion eraill anifeiliaid.

Yn ogystal, gall mesurau syml fel golchi dwylo ar ôl cyswllt ag anifeiliaid anwes, ar ôl defnyddio’r toiled a glanhau ar ôl eraill, yn enwedig plant neu anifeiliaid anwes sydd â dolur rhydd, leihau lledaeniad haint gan y bacteria hyn (a bacteria eraill).

Lleihau’r effaith yng Nghymru

Un rôl bwysig gan GICCC yw casglu a dehongli data am lefelau clefydau heintus ymysg poblogaeth Cymru. Mae heintiau allweddol, gan gynnwys Campylobacter, o dan oruchwyliaeth gyson, er mwyn darganfod tueddiadau arwyddocaol, gwerthuso mesurau atal a rheoli, nodi a rheoli achosion o glefyd a thynnu sylw gweithwyr proffesiynol a mudiadau priodol at fygythiadau clefydau heintus.

Mae’r GICCC hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwil wedi’i ariannu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) i ymchwilio i Halogiad Campylobacter mewn cyw iâr sydd ar gael i’r defnyddiwr