Ansawdd Aer

Ansawdd aer amgylcheddol yw'r ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio'r llygryddion yn yr aer allan yn yr 'awyr agored'.

Allyriannau o gerbydau sy'n achosi'r rhan fwyaf o broblemau llygredd aer lleol.

Ond mae ffynonellau eraill yn gallu dylanwadu ar ansawdd yr aer hefyd e.e. ffynonellau diwydiannol, amaethyddol a phreswyl/domestig

Pam mae ansawdd yr aer yn bwysig i iechyd?

Gwnaed ymchwil dwys i effeithiau amlygiad tymor hir a thymor byr i wahanol lygryddion aer, ac erbyn hyn, mae'r mwyafrif o bobl yn derbyn bod yna gysylltiad rhwng amlygiad i lygredd aer a niwed i iechyd.

Mae'r effeithiau ar ddeilliannau iechyd, a pha mor ddifrifol yw'r effeithiau hynny, yn amrywio yn dibynnu ar sawl ffactor.

Mae’r ffactorau'n cynnwys dos a hyd yr amlygiad, ond un peth a gafwyd yn gyson yw bod amlygiad tymor hir i lygryddion yn yr aer, (ac yn arbennig deunydd gronynnol mân, ond hefyd nitrogen deuocsid ac oson), yn cynyddu afiachusrwydd cardiofasgwlaidd ac anadlol a'r risg o farwolaeth.

Nodwyd taw'r prif afiechydon y mae ansawdd aer gwael yn eu hachosi yw clefyd coronaidd y galon, clefyd serebro-fasgwlaidd a methiant y galon.

Nodwyd bod llygredd gronynnol mân yn yr aer ac allyriannau disel o gerbydau yn garsinogenaidd hefyd.

Gall amlygiad tymor byr sbarduno symptomau fel cosi poenus yn y llygaid, y trwyn a'r llwnc, cur pen a chyfog, a gall hyn arwain at ddwysâd symptomau asthma, effaith ar weithrediad yr ysgyfaint, mwy o ddibyniaeth ar feddyginiaeth, a chynnydd yn y risg o orfod cael triniaeth am anhwylderau cardiofasgwlaidd ac anhwylderau'r ysgyfaint yn yr ysbyty.

Mae llygredd yn yr aer yn gallu cael effaith andwyol ar yr amgylchedd hefyd, yn nhermau'r effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant, a'r rhai anuniongyrchol ar ffurf effeithiau ar statws asid a maetholion priddoedd a dyfroedd. 

A yw ansawdd yr aer yn risg i iechyd y cyhoedd?

Ar y cyfan, derbynnir bod llygredd aer amgylcheddol yn gallu cael effaith niweidiol ar iechyd y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ef. Mae o leiaf ddau drywydd sy'n gallu achosi effeithiau gwahanol ar iechyd, sef: gwahanol lefelau o amlygiad a/neu wahanol ragdueddiadau.

Er nad yw'r risg o ddifrifoldeb effeithiau iechyd o amlygiad i lygredd aer yn unffurf ar draws poblogaethau, gall anghydraddoldebau iechyd fodoli h.y. gwahaniaethau mesuradwy mewn profiadau iechyd a deilliannau iechyd rhwng gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth.

Derbynnir yn helaeth nad yw amlygiad yn unffurf ar draws, nac o fewn, poblogaethau. Mae crynoadau o lygryddion aer yn tueddu i amrywio ar raddfa ofodol gyfyng. Mae'r dosbarthiad anghyfartal hwn o lygredd aer yn gallu arwain at amrywiadau yn y potensial am amlygiad, ac yn yr effeithiau cysylltiedig ar iechyd.

Ar y cyfan, mae ansawdd aer amgylcheddol yn y DU wedi gwella'n gyson dros y degawdau diwethaf, a hynny'n bennaf oherwydd gostyngiad mewn allyriannau diwydiannol a'r gwaith i'w rheoleiddio, a datblygiadau technolegol mewn tanwydd cerbydau glanach ac injanau mwy effeithlon.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn y DU yn mwynhau ansawdd aer da erbyn hyn, mae’r niferoedd cynyddol o gerbydau ar y ffyrdd wedi gwrthbwyso'r gwelliannau yn ansawdd yr aer.

I'r perwyl hwn, mae problemau gyda llygredd aer yn parhau, ac yn arbennig felly ar lefel leol. Mae hyn o bryder sylweddol o ran iechyd y cyhoedd, oherwydd yr effeithiau ar iechyd sydd wedi eu dogfennu'n helaeth.

Mae astudiaethau niferus wedi ceisio mesur yr effeithiau ar iechyd sy'n gysylltiedig ag amlygiad i lygredd aer.

Rhoddir yr amcangyfrif mwyaf dibynadwy o'r effaith (ar gyfer mater gronynnol mân) fel risg gymharol 1.06, sy'n golygu, am bob cynnydd o 10µg/m3 yn y mater gronynnol mân, mae'r risg o farwoldeb o bob achos yn cynyddu tua 6%. Wedi dweud hynny, mae llawer o ansicrwydd ynghylch amcangyfrif maint yr effaith.

Beth yw maint y broblem?

Yn 2008 yn y DU, amcangyfrifwyd taw bron i 30,000 o farwolaethau cyn pryd (ar oedrannau nodweddiadol) a cholled gysylltiedig o 340,000 o flynyddoedd o fywyd ar draws y boblogaeth oedd maint y baich ar iechyd.

Mae adroddiad mwy diweddar sy'n amcangyfrif effeithiau iechyd 'lleol' amlygiad i ronynnau mân yn y DU yn nodi bod y ffracsiwn o farwolaethau y gellir eu priodoli i amlygiad tymor hir i lygredd aer ar ffurf gronynnau o law dyn yn amrywio o tua 2.5% yn ardal rhai awdurdodau lleol gwledig yr Alban a Gogledd Iwerddon, i 3-5% mewn rhannau o Gymru a Lloegr, i dros 8% yn rhai o fwrdeistrefi Llundain.

Beth gellir ei wneud am ansawdd yr aer?

Er mwyn amddiffyn iechyd y boblogaeth rhag effeithiau amlygiad i lygredd aer, mae yna fframwaith cyfreithiol sefydledig ar gyfer rheoli ansawdd aer.

Er y daw llawer o'r cyfarwyddyd o'r UE, mae deddfwriaeth ategol mewn grym ymhob rhan o'r DU, ynghyd â strategaeth ansawdd aer sy’n gofyn am weithredu ar lefel genedlaethol a lleol.

Rheolir ansawdd aer lleol ar draws y DU trwy broses reoli risg sy'n seiliedig ar effeithiau gyda'r nod o ddarparu ateb deinamig i broblemau iechyd cyhoeddus sy'n gysylltiedig â chrynoadau uwch o saith llygrydd aer penodedig.

Yr enw ar y broses hon yw Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM)link to external website - opens in new window ac mae hyn wedi bod yn ei lle ers diwedd y 1990au.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i gefnogi datblygu polisïau ac arferion ar draws y GIG yng Nghymru i leihau llygredd aer, risgiau ac anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.

Gellir gweld canllawiau 'Gweithio gyda'n Gilydd i leihau llygredd aer awyr agored, risgiau ac anghydraddoldebau' ar wefan Llywodraeth Cymru yma.agor ar wefan allanol

Adnoddau defnyddiol

Fforwm Ansawdd Aer Cymru sy'n gofalu am y wefan Ansawdd Aer yng Nghymrulink to external website - opens in new window sy'n darparu gwybodaeth gynhwysfawr am ansawdd yr aer yng Nghymru, gan gynnwys mynegai dyddiol am ansawdd yr aer, gwybodaeth am fandio a chyngor ar iechyd. Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.

Ansawdd aer dan do

Mae ansawdd aer dan do yn gallu cael effaith niweidiol ar iechyd y cyhoedd hefyd. Mae ansawdd aer da dan do yn dibynnu ar amrywiaeth eang o baramedrau, gan gynnwys presenoldeb cemegolion organig anweddol (VOCs), nwyon fel nitrogen deuocsid, oson a charbon monocsid, mater gronynnol a ffibrau, a gronynnau biolegol fel bacteria, ffwng a phaill.

Mae ffynonellau llygryddion aer dan do yn cynnwys llygryddion sy'n cael eu creu y tu allan gan draffig a diwydiant ond sy'n mynd i mewn i adeiladau, y rhai a gynhyrchir y tu fewn trwy hylosgi tanwydd, canhwyllau a baco, yn ogystal â’r rhai sy'n cael eu rhyddhau o ddeunyddiau adeiladu, dodrefn, nwyddau glanhau, nwyddau electronig, nwyddau ymolchi, pobl ac anifeiliaid anwes. Gall y tymheredd a lleithder effeithio ar y cysyniad o'r cydrannau hyn.

Mae diwygiad 2006 o'r Rheoliadau mewn perthynas ag awyrulink to external website - opens in new window wedi pennu meini prawf perfformiad ar gyfer sawl llygrydd aer dan do, gan gynnwys VOCs, nitrogen deuocsid a charbon monocsid.