Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwilio i achosion o amrywiolyn De Affrica o'r Coronafeirws yng Nghymru

Mae ymchwiliadau amlasiantaeth ar y gweill ar ôl i dri achos o amrywiolyn De Affrica o’r Coronafeirws gael eu nodi yng Nghymru heb unrhyw hanes teithio hysbys i'r rhanbarth na chysylltiadau perthnasol.

“Nodwyd cyfanswm o 13 achos o amrywiolyn De Affrica o’r Coronafeirws yng Nghymru. Mae gan ddeg o’r rhain gysylltiad teithio â De Affrica neu deithio rhyngwladol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe, Cyngor Sir Ynys Môn a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Conwy a Chastell-nedd Port Talbot i ymchwilio i’r achosion nad oes ganddynt unrhyw hanes teithio hysbys nac unrhyw gysylltiadau perthnasol.  Nid oes achos wedi’i ddatgan.

Mae achos o amrywiolyn De Affrica heb unrhyw gysylltiadau teithio na chysylltiadau perthnasol wedi'i nodi yng Nghonwy fel rhan o ymchwiliadau i glwstwr bach o achosion o Coronafeirws yno.

Ni nodwyd unrhyw achosion eraill o amrywiolyn De Affrica yn y clwstwr, a chadarnhawyd mai’r amrywiolyn gwreiddiol yw’r achosion eraill a genoteipiwyd.  Roedd mesurau rheoli priodol ar waith ar gyfer yr unigolyn, sydd bellach wedi gwella.  Rydym yn olrhain cysylltiadau.

Nodwyd bod achos o amrywiolyn De Affrica gan aelod o'r cyhoedd ar Ynys Môn sydd heb unrhyw gysylltiadau teithio na chysylltiadau perthnasol.

Nodwyd yr achos hwn fel rhan o ymchwiliad i glwstwr o achosion o’r Coronafeirws yno.  Ni nodwyd unrhyw achosion eraill o amrywiolyn De Affrica yn y clwstwr, a chadarnhawyd nad amrywiolyn De Affrica o’r feirws yw'r achosion eraill a genoteipiwyd.

Nodwyd achos o amrywiolyn De Affrica heb unrhyw gysylltiadau teithio na chysylltiadau perthnasol trwy’r broses ddilyniannu (sequencing) arferol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd yr unigolyn eisoes yn hunanynysu tra’n sâl, a hyd yma nid oes unrhyw achosion eraill o amrywiolyn De Affrica wedi’u nodi sy’n gysylltiedig â’r unigolyn hwn.  Rydym yn parhau i olrhain cysylltiadau.

Cysylltir a phawb sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un o’r achosion hyn drwy’r broses Profi, Olrhain a Diogelu a rhoddir cyngor ychwanegol iddynt, eu haelwydydd a’u cysylltiadau eraill.

Dywedodd Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae nodi’r achosion hyn yn dangos bod prosesau sydd wedi hen ennill eu plwyf o dan y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn effeithiol.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ymchwilio i’r tri achos hyn, ac i ddarganfod ble y daliwyd y feirws, ac a yw’r feirws wedi cael ei throsglwyddo i unrhyw berson arall.

“Mae’n rhy gynnar i allu dweud beth sy’n digwydd o ran trosglwyddiad, ond fel y nododd y Gweinidog Iechyd yn gynharach heddiw, nifer fach o achosion yw hyn, ac nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod trosglwyddiad cymunedol parhaus wedi digwydd.

“Nid oes tystiolaeth bod amrywiolyn De Affrica yn achosi salwch mwy difrifol.  Mae peth tystiolaeth y gall ledaenu'n haws, ac efallai na fydd brechlynnau - er eu bod yn dal i fod yn effeithiol - yn gweithio cystal yn ei erbyn.

“Oherwydd ymddangosiad amrywiolynnau newydd sy’n trosglwyddo’n haws, mae hi’n bwysicach nag erioed i ni i gyd gadw at y cyfyngiadau symud ac i beidio â chwrdd â phobl eraill.

“Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi aros gartref. Os oes rhaid i chi adael eich cartref, cadwch eich pellter, golchwch eich dwylo’n rheolaidd a gwisgwch fasg wyneb pan fo angen, yn unol â’r rheoliadau.”

“Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu peswch, twymyn neu newid i’ch synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu drwy ymweld ag https://gov.wales/getting-tested-coronavirus-covid-19.