Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi lle canolog i leisiau cymunedol er mwyn hybu bywydau cenedlaethau'r dyfodol 

Cyhoeddwyd: 25 Hydref 2022

Mae lleisiau rhai o gymunedau Cymru sydd wedi'u tangynrychioli fwyaf wedi'u rhoi wrth wraidd ffordd newydd o greu polisi argyfwng hinsawdd a natur er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Y rhai y mae argyfyngau hinsawdd a natur yn effeithio waethaf arnynt hefyd yw'r rhai nad ydynt yn cael eu clywed fel arfer pan ddaw at gynllunio polisi. Gall hyn olygu bod eu pryderon penodol yn cael eu hanwybyddu, gan greu dyfodol lle maent yn cael eu taro'n galetach fyth.    

Mae'r cymunedau y mae argyfyngau hinsawdd a natur eisoes yn effeithio arnynt yng Nghymru yn cynnwys:  

  • Rhentwyr cymdeithasol,  
  • Menywod a ffoaduriaid duon a lleiafrifoedd ethnig 
  • Grwpiau anabl, a  
  • Chymunedau gwledig a ffermio. 

Mewn prosiect ar y cyd, gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac ymchwilwyr Llythrennedd y Dyfodol (FLiNT) ddefnyddio dull mwy creadigol o fynd i'r afael â hyn ac maent yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli eraill i gynnwys cymunedau yn eu meddwl a'u cynllunio hirdymor. 

Gan ddefnyddio gweithgareddau adrodd straeon creadigol a arweinir gan gymeriadau a gynhelir fel gweithdai a chystadlaethau adrodd straeon, gofynnwyd i gyfranogwyr rannu sut beth fydd dyfodol Cymru gyda newid hinsawdd yn edrych ac yn ei deimlo iddyn nhw. 

Roedd adrodd straeon a defnyddio naratifau a darluniau wedi ysgogi sgyrsiau craff gyda chymunedau am yr hinsawdd ac anghydraddoldebau. Helpodd y rhain i ddatgelu pa broblemau y gallai fod angen mynd i'r afael â nhw yn y dyfodol na fyddent o bosibl wedi dod i'r amlwg fel arall a galluogodd y cymunedau i drosglwyddo'r strategaethau y maent eisoes wedi'u datblygu ar gyfer byw bywydau sy'n ‘wyrddach’ ac yn fwy cost-effeithiol. 

Datgelodd hefyd y ffordd ryng-gysylltiedig y mae cyfranogwyr yn gweld yr argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â'u hamgylchedd lleol a mynediad at fannau gwyrdd. Rhannodd llawer hefyd eu pryder o gael eu gadael ar ôl gan drafnidiaeth wrth i uchelgeisiau trafnidiaeth sero-net gael eu trafod ar lefelau uwch. 

Meddai Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i leihau anghydraddoldebau ar draws popeth a wnawn, gan gynnwys newid hinsawdd. Mae hyn yn dechrau gyda'r angen i feddwl yn yr hirdymor a chynnwys y bobl a'r cymunedau yr effeithir arnynt, gan ganolbwyntio ar grwpiau na chlywir cymaint ganddynt. 

“Bydd cynnwys pobl na chlywir cymaint ganddynt yn helpu i sicrhau bod y polisïau a ddatblygir gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn well ac er budd pawb.” 

Meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:   

“Mae'r ffaith bod penderfyniadau'n cael eu gwneud heb y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfyngau hinsawdd, natur a chostau byw yn dwysáu'r anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes. 

“Yn aml, mae gan bobl yn ein cymunedau tlotaf sydd wedi'u tangynrychioli fwyaf atebion ar gyfer newid ar unwaith a pharhaol ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn clywed eu barn a'u syniadau a gweithredu arnynt nawr. 

“Gan ddefnyddio'r fframwaith hwn a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gallwn greu'r polisïau beiddgar ac effeithiol sydd eu hangen arnom ar frys, er budd pawb yng Nghymru.” 

Meddai Will Slocombe, FLiNT:  

 “Ceisiodd y prosiect Cymunedau a Newid Hinsawdd yng Nghymru'r Dyfodol ddefnyddio dulliau amgen a chreadigol o ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael dealltwriaeth ddyfnach o'r materion hyn yn y grwpiau hyn sydd wedi'u tangynrychioli.  

“Gwnaeth ein defnydd o adrodd straeon helpu i liniaru yn erbyn blinder arolwg yn y cymunedau yr effeithir arnynt yn ogystal ag ennyn ffynhonnell gyfoethog o ddata ansoddol ar y pwnc hwn. 

“Rydym wedi treialu'r prosiect gyda newid hinsawdd, ond gellir cymhwyso'r dull i feysydd polisi eraill ac felly dylai fod yn offeryn gwerthfawr i wneuthurwyr polisi sicrhau bod penderfyniadau'n adlewyrchu anghenion pawb.” 

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd: 

  • Mae hinsawdd yn golygu gartref: Nid yw cymunedau'n meddwl am faterion hinsawdd byd-eang, yr amgylchedd, a materion cymdogaeth lleol fel pethau ar wahân, digyswllt. 
  • Dyfodol Gwyrdd: Roedd cymunedau'n ymwybodol iawn o werth ymgysylltu â'r byd naturiol, yn enwedig ei fflora a ffawna, i'w hiechyd corfforol ac iechyd meddwl.  
  • Dysgu Caled: Yn aml mae cymunedau difreintiedig wedi datblygu strategaethau ar gyfer byw sy'n ‘wyrdd’ ac yn gost-effeithiol.  
  • Gweithredu Cymunedol: Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd a chyflawni sero-net yn ‘cymryd pentref’, ac roedd y cyfranogwyr yn cydnabod ac yn dathlu gwerth eu cymunedau.  
  • Roedd gan rai cyfranogwyr iau ddiddordeb mewn dyfodol techno-iwtopaidd optimistaidd (gan gynnwys ceir trydan, dronau, cerbydau awtonomaidd, byw mewn adeiladau uchel iawn a threfol) neu ddad-ddofi tir Cymru.