Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio pecyn cymorth i gynnal Gweithdai Amgylchedd Iach

Cyhoeddwyd: 7 Ebrill 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio pecyn cymorth newydd, am ddim er mwyn helpu sefydliadau partner i gynnal Gweithdai Amgylchedd Iach ledled Cymru. 

Bydd yr adnodd ar-lein hwylus yn rhoi'r offer sydd ei angen ar dimau i gynnal sesiynau a fydd yn helpu'r rhai sy'n bresennol i ystyried a lleihau eu heffeithiau negyddol ar yr amgylchedd, a chynyddu'r gweithgareddau hynny sy'n cael effaith gadarnhaol fel helpu natur, lleihau gwastraff ac allyriadau carbon. 

Mae'r pecyn cymorth a'r gweithdy ar-lein wedi'u datblygu i gyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag atynt. 

Mae'r gweithdy yn galluogi'r tîm i drafod materion mawr newid hinsawdd, sero wastraff a bioamrywiaeth ac mae'n edrych ar weithgareddau'r tîm cyfan yn ogystal â'r unigolion yn y tîm.  Mae'n addas i bob tîm mewn sefydliad, nid dim ond y rhai sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gan y gall pawb wneud cyfraniad cadarnhaol. 

Dywedodd Tracy Evans, Uwch-swyddog Datblygu Cynaliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu pecyn cymorth hwylus, sy'n ennyn brwdfrydedd a fydd yn helpu hwyluswyr i gyflwyno gweithdai a fydd yn rhoi ffyrdd ymarferol i bobl gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. 

“Rydym yn gweithio gyda Cynnal Cymru a phartneriaid eraill i hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o hwyluswyr a fydd yn gallu cefnogi timau i ddefnyddio hyn ledled Cymru. 

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hwyluso un o'r gweithdai hyn i ddefnyddio'r adnodd gyda'u timau.” 

Rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a deddfwriaeth gysylltiedig gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Deddf Teithio Llesol (Cymru) a thargedau datgarboneiddio. Gall pob tîm ac unigolyn yn y sefydliad chwarae rhan wrth weithio tuag at y targedau hyn.  

Gellir lawrlwytho'r pecyn cymorth, am ddim, o dolen uchaf: