“Ar ran ein hunain ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn mynegi ein tristwch dwfn ac ymdeimlad o golled wirioneddol yn sgil y newyddion bod EM y Frenhines Elizabeth wedi marw.
“Fel y frenhines sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes y Deyrnas Unedig, mae Ei Huchelder Brenhinol wedi bod yn symbol o undod a chryfder, ac wedi rhoi sefydlogrwydd a chysondeb dros gyfnod o dros saith deg mlynedd.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod o newid annirnadwy ar gyfer y wlad hon o dan y 15 prif weinidogion sydd wedi gwasanaethu oddi tani.
“Mae ein meddyliau efo’r Teulu Brenhinol, pobl Cymru, y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad wrth i ni alaru a chofio bywyd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II”
Jan Williams OBE
Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dr Tracey Cooper
Prif Weithredwr