Neidio i'r prif gynnwy

DU yn colli statws gwaredu'r frech goch, ond mae achosion yng Nghymru yn parhau i fod yn isel

Yn 2016, ynghyd â gweddill y DU, cafodd Cymru ei hardystio bod trosglwyddiad endemig o'r frech goch wedi'i ddileu. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop fod y DU wedi colli'r statws hwn yn 2018.

Nid yw Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o'r frech goch dros y tair blynedd diwethaf ac mae mewn sefyllfa dda i gadw rheolaeth dros y frech goch.

Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn sgil y nifer uchel sydd wedi cael dau ddos o frechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR) yng Nghymru, dim ond pum achos a gadarnhawyd o'r frech goch a gawsom hyd yma yn 2019.

“Mae'r ganran ddiweddaraf o bobl yng Nghymru sydd wedi cael y brechlyn MMR ar gyfer y dos cyntaf yn 94.6% erbyn y pen-blwydd yn 2 oed a 97.2% ar y pen-blwydd yn 5 oed, ac ar gyfer yr ail ddos yn bump oed mae'n 92.4% (Ionawr-Mawrth 2019).”

Lle cafwyd achosion bach o'r frech goch mae'r rhain wedi digwydd oherwydd clefyd a fewnforiwyd ym mhob un o' r tair blynedd diwethaf, ond nid oedd yr un o'r rhain yn fwy na 21 o achosion wedi'u cadarnhau neu wedi para mwy nag ychydig fisoedd.

Er mwyn helpu i gynnal y broses o ddileu'r frech goch yng Nghymru mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau'r GIG ledled y wlad wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr er mwyn cynnal y broses o ddileu'r frech goch yng Nghymru. Mae'r camau gweithredu uniongyrchol yn cynnwys:

Ymgyrch ‘Yn ôl i'r Ysgol’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn atgoffa rhieni o bwysigrwydd imiwneiddio gan gynnwys MMR

Ymgyrch ‘Dechrau yn y Brifysgol’ Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n targedu myfyrwyr coleg am y tro cyntaf a'r rhai sy'n gadael yr ysgol er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y brechlynnau MMR a MenACWY – sydd hefyd yn diogelu yn erbyn pedwar math gwahanol o'r bacteria meningococaidd sy'n achosi llid yr ymennydd a gwenwyn gwaed (septisemia) – yr hydref hwn. 

Cyhoeddi ‘Cynllun Gweithredu Tasglu Dileu'r Frech Goch a Rwbela Cymru 2019-2021’ gan nodi camau system gyfan ar draws GIG Cymru i gynnal y broses o ddileu'r frech goch a rwbela.

Y frech goch yw un o'r clefydau mwyaf heintus ac mae'n dal i ladd ar draws Ewrop a gweddill y byd.

Dylai pob plentyn fod wedi cael dau ddos o MMR cyn iddo ddechrau yn yr ysgol. Ond nid yw byth yn rhy hwyr os ydych chi wedi colli brechiad. Byddem yn annog unrhyw un a anwyd o 1970 ymlaen sydd wedi colli un neu'r ddau o'r brechiadau MMR i gysylltu â'u meddyg teulu er mwyn trefnu i ddal i fyny. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n teithio i ardaloedd o Ewrop, y gallai achosion o'r frech goch effeithio arnynt.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn annog pob rhiant a pherson ifanc i sicrhau eu bod yn cynnwys ‘gwirio bod imiwneiddio yn gyfredol’ ar eu ‘rhestr o bethau i'w gwneud’ cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd. Bydd hyn yn helpu i leihau lledaeniad clefyd y gellir ei atal drwy frechlyn pan fyddwch chi neu eich plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu gyda phobl newydd. 

Ceir rhestr o frechlynnau rheolaidd am ddim a gynigir i blant a phobl ifanc yng Nghymru wrth Galw Iechyd Cymru.

Os nad ydych yn siŵr a ydych chi neu'ch plentyn wedi cael y brechlynnau plentyndod rheolaidd, gallwch wirio eich Llyfr Coch neu gysylltu â'ch meddygfa, ymwelydd iechyd, nyrs ysgol neu'r tîm imiwneiddio ysgolion.