Neidio i'r prif gynnwy

Y Frech Goch

Mae'r frech goch yn salwch feirysol heintus iawn sy'n cael ei ledaenu drwy beswch a thisian. Weithiau gall arwain at gymhlethdodau difrifol ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol. Gellir atal y frech goch drwy gael dau ddos o'r brechlyn MMR (y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela). 

Cynigir y brechlyn MMR i bob plentyn fel cwrs dau ddos y dylid ei gwblhau cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. 

Fodd bynnag, bydd llawer na dderbyniodd bigiad MMR yn blant, yn dechrau yn y brifysgol yn 2021. A ydych yn un ohonynt? Gall unrhyw un nad yw wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR ddal y frech goch.  

Cysylltwch â'ch meddyg teulu i gadarnhau a ydych wedi cael y brechlynnau diweddaraf a chael y brechlyn am ddim drwy'r GIG. 

Dysgwch ragor am symptomau'r frech goch.