Neidio i'r prif gynnwy

Llid yr ymennydd 

Dylai pob myfyriwr prifysgol sicrhau ei fod wedi cael y brechlyn MenACWY i atal llid yr ymennydd a septisemia, a gall y ddau fod yn angheuol. 

Mae clefyd meningococaidd (llid yr ymennydd a septisemia) yn glefyd prin, ond sy'n bygwth bywyd, a achosir gan facteria meningococaidd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol cael triniaeth frys yn yr ysbyty. Gall arwain at anableddau sy'n newid bywyd fel torri coesau neu freichiau i ffwrdd, colli clyw, niwed i'r ymennydd, a chreithiau. Gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw oedran. 

Mae myfyrwyr newydd yn y brifysgol yn wynebu risg uwch o'r clefyd na phobl eraill o'r un oedran oherwydd bod llawer ohonynt yn cymysgu'n agos â llawer o bobl newydd – y gallai rhai ohonynt, heb yn wybod iddynt, fod yn cario'r bacteria meningococaidd yng nghefn eu trwynau a'u gwddf. 

Gall y brechlyn MenACWY atal tri o'r pedwar math mwyaf cyffredin o glefyd meningococaidd yn y DU ac mae wedi'i gynnig yn rheolaidd i bobl ifanc 13 i 15 oed (blynyddoedd ysgol 9 neu 10) yn yr ysgol, ac i rai plant hŷn yn eu harddegau gan eu practis meddyg teulu.  

Gall unrhyw fyfyriwr prifysgol a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1996 a oedd yn gymwys ond a gollodd eu brechlyn MenACWY yn eu harddegau gael y brechlyn hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed. 

Mae myfyrwyr eraill, gan gynnwys myfyrwyr tramor a myfyrwyr aeddfed, nad ydynt wedi cael y brechlyn MenACWY hyd yma yn gymwys, fel glasfyfyrwyr, hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed. 

Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch meddygfa, i holi a ydych wedi cael y brechlyn MenACWY, ac i drefnu apwyntiad. 

Dysgwch ragor am symptomau llid yr ymennydd. 

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth yn www.meningitisnow.org