Neidio i'r prif gynnwy

Feirws papiloma dynol (HPV) 

Mae HPV yn haint cyffredin iawn a drosglwyddir yn rhywiol nad yw fel arfer yn achosi unrhyw symptomau ac mae'n diflannu ar ei ben ei hun, ond gall rhai mathau achosi defaid gwenerol neu ganser. 

Yn y DU, mae'r brechlyn HPV wedi'i gynnig i bob merch 12 i 13 oed ym mlwyddyn ysgol 8 ers dros ddeng mlynedd. Ers mis Medi 2019, mae'r brechlyn hefyd wedi cael ei gynnig i fechgyn ym mlwyddyn ysgol 8. 

Mae'r brechlyn HPV  yn amddiffyn yn erbyn y mathau o HPV sy'n achosi'r rhan fwyaf o ddefaid gwenerol a chanser ceg y groth, yn ogystal â rhai canserau'r geg a'r gwddf a rhai mathau o ganser yr anws a'r rhannau gwenerol. 

Ymhen amser, disgwylir y bydd y brechlyn yn achub cannoedd o fywydau bob blwyddyn yn y DU. 
Mae astudiaeth ddiweddar yn yr Alban eisoes wedi dangos gostyngiad o 71% mewn clefyd serfigol cyn-ganseraidd ymhlith menywod ifanc. Ers dechrau'r rhaglen frechu yn y DU, bu gostyngiad mawr yn nifer y bobl ifanc sydd â defaid gwenerol. 

Os ydych yn fyfyriwr benywaidd ac wedi colli eich brechiad HPV pan oeddech yn yr ysgol, gallwch gael y brechlyn am ddim hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed. Gall myfyrwyr gwrywaidd sy'n MSM gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed mewn clinigau iechyd rhywiol. 

Siaradwch â'ch meddygfa a threfnu apwyntiad i gael y brechlyn diweddaraf cyn gynted â phosibl. Os nad ydych yn siŵr a wnaethoch ei dderbyn, holwch eich meddyg teulu. 

Yn ogystal, mae sgrinio serfigol yn cael ei gynnig yn rheolaidd i fenywod rhwng 25 a 64 oed yn y DU. Bydd y brechlyn yn atal tua 70% o achosion o ganser ceg y groth, ond mae angen sgrinio o hyd i nodi unrhyw annormaleddau serfigol eraill. Mae'r cyfuniad o imiwneiddio a sgrinio rheolaidd yn cynnig yr amddiffyniad gorau posibl rhag canser ceg y groth.