Neidio i'r prif gynnwy

Clwy'r pennau

Mae clwy’r pennau yn salwch feirysol sy'n cael ei ledaenu drwy beswch a thisian, cyswllt agos â rhywun sydd eisoes â'r haint. Gwelsom gynnydd yng ngweithgarwch clwy'r pennau yn 2019 gyda'r rhan fwyaf o achosion mewn pobl ifanc nad oeddent wedi cael eu himiwneiddio.  

Mae brigiad o achosion o glwy’r pennau yn gyffredin mewn prifysgolion a'r ffordd orau o amddiffyn eich hun yw cael dau ddos o'r brechlyn MMR. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechlyn. Os nad yw'n glir p'un a ydych wedi cael y ddau ddos ai peidio, nid oes niwed mewn cael dos ychwanegol. 

Cysylltwch â'ch meddyg teulu i gadarnhau a ydych wedi cael y brechlynnau diweddaraf a chael y brechlyn am ddim drwy'r GIG. 

Dysgwch ragor am symptomau clwy’r pennau.