Neidio i'r prif gynnwy

Anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes yn cynyddu yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 9 Mehefin 2022

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynyddu.

Er bod anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach yn parhau'n sefydlog, mae'r bwlch o ran pa mor hir y gall rhywun ddisgwyl byw rhwng y poblogaethau lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi bod yn cynyddu ar y cyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gyfer dynion a menywod, gan awgrymu anghydraddoldeb cynyddol. Roedd y bwlch anghydraddoldeb dros flwyddyn yn fwy i ddynion nag i fenywod.  

Mae'r adroddiad sy'n cynnwys dadansoddiad o ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach ers 2011, hefyd wedi nodi gostyngiad bach yn nisgwyliad oes menywod rhwng 2018 a 2020, yr isaf ers dechrau'r adroddiadau. Mae disgwyliad oes yng Nghymru yn 82 mlynedd i fenywod a 78 mlynedd i ddynion yn yr un cyfnod hwn. 

Meddai Nathan Lester, Pennaeth Tîm Dadansoddi'r Arsyllfa a Chanser, Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r data hyn yn hanfodol ar gyfer nodi'r tueddiadau cynyddol hyn mewn anghydraddoldebau yn gynnar fel y gellir mynd i'r afael â nhw'n uniongyrchol mewn penderfyniadau polisi yn y dyfodol. Mae hyn yn bwysicach nag erioed. wrth i ni ddechrau dod allan o'r pandemig Covid-19 a delio â'r argyfwng costau byw.” 

Dyma'r negeseuon allweddol eraill a nodwyd:  

  • Roedd disgwyliad oes iach yn 62 mlynedd i fenywod a 61 mlynedd i ddynion yn 2018-2020. 
  • Mae dynion yn treulio mwy o'u bywyd mewn iechyd da (78.5 y cant) o gymharu â menywod (76 y cant). 
  • Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes wedi parhau'n gymharol sefydlog rhwng 2011 a 2013 a 2018 a 2020 ar gyfer dynion a menywod. Roedd y bwlch mewn menywod dros dair blynedd a hanner yn fwy nag ar gyfer dynion.     
  • Er y bu rhai arwyddion bod y bwlch mewn dynion wedi gostwng ers 2015-2017, roedd cynnydd yn y bwlch o ran disgwyliad oes iach o 2.2 mlynedd i fenywod dros yr un cyfnod. 

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton:

“Rydym am i bobl yng Nghymru fyw bywydau hir ac iach ac rydym wedi rhoi nifer o bolisïau blaengar ar waith i gyflawni'r uchelgais hwnnw.  

“Mae'r offeryn data hwn yn dangos yr anghydraddoldebau iechyd sy'n gyffredin ledled Cymru ac mae'n bwysig ein bod yn dysgu ohonynt er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn ymrwymedig i ddysgu o'r data hyn, yn ogystal ag annog ffyrdd iach o fyw, mewn ymdrech i wella disgwyliad oes pobl yng Nghymru.”  

‘Mae disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda'r bwlch anghydraddoldeb’ yn offeryn data rhyngweithiol sy'n galluogi'r defnyddiwr i chwilio drwy a nodi disgwyliadau oes a bywyd iach a'r bylchau rhyngddynt yn ôl rhyw, byrddau iechyd neu ardaloedd awdurdodau lleol.  

Bydd y gwaith yn llywio Llywodraeth Cymru fel rhan o'r dangosyddion a cherrig milltir llesiant cenedlaethol a chaiff ei ddefnyddio fel rhan o'r Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus.  

Proffil

 

Tudalen we