Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer Sgrinio Cymunedol TB yn Llwynhendy

Mae pobl yn ardal Llwynhendy yn Sir Gaerfyrddin a allai fod wedi dod i gysylltiad â thwbercwlosis (TB) yn cael eu hannog i fynd i ymarfer sgrinio cymunedol TB a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  

Bydd tua 80 o bobl yn ardal Llwynhendy sydd wedi'u nodi fel cysylltiadau achosion o TB a gadarnhawyd yn cael llythyrau yn eu gwahodd i gael eu profi yn ystod y rhaglen sgrinio gymunedol a gynhelir ym mis Mehefin. 

Mae galwad ychwanegol yn cael ei rhoi i bobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â TB fel cwsmer sy'n oedolyn neu gyflogai tafarn y Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018.

Mae'r ymarfer sgrinio yn ymgais i reoli achos parhaus o TB yn Llwynhendy y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ei fonitro ac yn ymchwilio iddo ers tro. 
Ers 2010, cafwyd 29 o achosion o TB yn gysylltiedig â'r achos.  

Ceir tystiolaeth i awgrymu bod nifer o achosion o TB gweithredol a chudd nad ydynt wedi'u canfod hyd yn hyn ym mhoblogaeth Llwynhendy sy'n gysylltiedig â'r achos. 

Nod yr ymarfer sgrinio presennol yw nodi'r achosion hyn er mwyn i'r unigolion yr effeithir arnynt allu mynd i gael triniaeth ac er mwyn gallu rheoli'r achos. 

Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae TB wedi bod yn cylchredeg ar lefel isel yn Llwynhendy ers tro a'n nod yw sicrhau bod yr holl unigolion yr effeithir arnynt yn mynd i gael triniaeth cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach a rheoli'r achos.” 

Mae TB yn haint a ganfyddir yn yr ysgyfaint fel arfer, ond gellir effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Gall unrhyw un ddal TB drwy anadlu'r bacteria mewn defnynnau bach iawn sy'n cael eu tisian neu eu pesychu gan rywun â TB yn ei ysgyfaint.

Symptom mwyaf cyffredin TB yw peswch parhaus am fwy na thair wythnos, gyda phoer sy'n gallu cynnwys gwaed weithiau. Gall symptomau eraill gynnwys colli pwysau, tymheredd uchel, a chwysu, yn enwedig yn ystod y nos. 

Mae TB yn anghyffredin yng Nghymru ac yn y DU gyfan. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei hysbysu am tua 100 o achosion o TB bob blwyddyn. Mae Cymru yn parhau i gael y gyfradd isaf o dwbercwlosis fesul 100,000 o'r boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.

Mae Dr Mason yn parhau: “Rydym yn cynnal yr ymarfer sgrinio ar yr adeg hon i gyd-daro â newid mewn strategaethau byd-eang, Ewropeaidd a strategaethau'r DU ar TB, sydd bellach yn canolbwyntio llawer mwy ar gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu'r clefyd erbyn 2035.”

“Ar ôl monitro'r achos yn Llwynhendy yn ofalus ac ymchwilio iddo am nifer o flynyddoedd, mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai cynnal ymarfer sgrinio cymunedol ar yr adeg hon yw'r peth gorau i'w wneud er mwyn rheoli'r achos hwn ac, yn ddelfrydol, i ddileu'r clefyd o ardal Llwynhendy.”

GWYBODAETH AM YR YMARFER SGRINIO

Dyma'r grwpiau o bobl sy'n gymwys i gael eu sgrinio:

  • Pobl sydd wedi cael llythyr yn eu gwahodd i fynd i gael eu sgrinio
  • Cwsmeriaid sy'n oedolion a chyflogeion tafarn Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018 yn unig, nad ydynt wedi'u nodi'n flaenorol fel cyswllt rhywun a heintiwyd â TB
  • Oedolion sydd wedi bod yn yr un ystafell am fwy nag 8 awr gyda rhywun â TB, o fewn pedwar mis cyn i'r person â TB gael diagnosis a thriniaeth

Caiff sgrinio ei gynnal ar yr amseroedd a'r lleoliadau canlynol: 

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2019, 8yb tan 10yb

Parc y Scarlets, Heol Maes-ar-Ddafen, Llanelli SA14 9UZ

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2019, 11yb tan 2:30yp 

Joiners Arms, 58 Heol Llwynhendy, Llanelli SA14 9HR

Dydd Mawrth 4 Mehefin, 4.30yp tan 8yh 

Canolfan Iechyd Llwynhendy, Heol Llwynhendy, Llanelli SA14 9BN 

Dydd Mercher 5 Mehefin 2019, 8yb tan 10yb 

Parc y Scarlets, Heol Maes-ar-Ddafen, Llanelli SA14 9UZ

Dydd Mercher 5 Mehefin 2019, 11yb tan 5yp 

Canolfan Iechyd Llwynhendy, Heol Llwynhendy, Llanelli SA14 9BN

Dydd Iau 6 Mehefin 2019, 8yb tan 1.30yp 

Canolfan Iechyd Llwynhendy, Heol Llwynhendy, Llanelli SA14 9BN

Dylai unrhyw un yn ardal Llwynhendy sy'n ansicr ynghylch a oes angen iddynt gael eu profi am TB fynd i sesiwn sgrinio oherwydd bydd staff wrth law i drafod cymhwysedd. Gall unigolion hefyd gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer sgrinio drwy ffonio 02920 827 627.