Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ryngwladol Atal Gwenwyn Plwm 2019: A ydych yn ymwybodol o blwm?

Gall amlygiad i blwm gael effeithiau niweidiol difrifol ar iechyd, yn enwedig mewn plant. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gefnogi Wythnos Ryngwladol Atal Gwenwyn Plwm 2019 Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae gwahardd plwm mewn paent a phetrol wedi bod yn llwyddiant iechyd cyhoeddus pwysig a sylweddol o ran lleihau ein hamlygiad.  Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae cryn dipyn o blwm yn yr amgylchedd o'n cwmpas o hyd. 

Gall amlygiad i blwm gael effeithiau iechyd hirdymor difrifol ar oedolion ac yn enwedig plant. Mae plwm yn wenwynig i systemau corff lluosog gan gynnwys, y system nerfol ganolog, yr ymennydd, y system atgenhedlu, yr arennau, y system gardiofasgwlaidd, y gwaed a'r system imiwnedd.

Nid oes lefel ddiogel o amlygiad i blwm i unrhyw un ond mae amlygiad i blwm yn effeithio'n arbennig ar yr ifanc. Gall plant sy'n dod i gysylltiad â chrynodiadau isel o blwm hyd yn oed brofi problemau sylweddol o ran eu datblygiad corfforol a meddyliol cynnar a gall hyn arwain at broblemau dysgu ac ymddygiad.

Os ydych yn byw mewn cartref hŷn, a adeiladwyd cyn y 1970au, dylech sicrhau nad yw eich pibellau dŵr yfed wedi'u gwneud o blwm. Os ydych yn gwneud unrhyw waith adnewyddu yn y cartref, cymerwch ofal wrth dynnu hen baent a pheidiwch â gadael i blant fod yn bresennol yn yr ardal wrth i waith gael ei wneud.

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn gwybod bod plwm yn dal i achosi niwed i iechyd yng Nghymru. Rydym yn annog pobl i edrych ar y wybodaeth ar ein tudalennau gwe a llenwi ffurflen Doeth am Iechyd Cymru er mwyn iddynt allu dysgu rhagor am sut i osgoi'r risgiau sy'n gysylltiedig â phlwm ac y gallwn ddysgu rhagor am sut y gallwn atal niwed sy'n gysylltiedig â phlwm.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

Dolen

Lead Exposure (Saesnaeg yn unig)