Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y smygwyr sy'n cael cymorth am ddim i roi'r gorau i smygu gan y GIG yn cynyddu traean

Gan dorri pob record, gwnaeth 15,599 o smygwyr yng Nghymru ddefnyddio gwasanaethau am ddim Helpa Fi i Stopio y GIG yn 2018-19 – sef y bedwaredd flwyddyn o dwf yn olynol a chynnydd o 3,672 o smygwyr o gymharu â phum mlynedd yn ôl (31 y cant).

Hon oedd blwyddyn fwyaf llwyddiannus y gwasanaeth erioed. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae Helpa Fi i Stopio wedi trin cyfanswm trawiadol o 70,796 o smygwyr.  Mae mwy a mwy o smygwyr yng Nghymru yn cydnabod bod cael ychydig bach o gymorth i roi'r gorau iddi yn mynd yn bell tuag at ddyfodol di-fwg. O gymharu â gweddill y DU, mae hyn yn fwy na'r tueddiad cyffredinol lle mae nifer y smygwyr sy'n ceisio triniaeth a chymorth gan y GIG wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae ffigurau ar gyfer nifer y smygwyr yng Nghymru, a gymerwyd o Arolwg Cenedlaethol Cymru, hefyd yn nodi gostyngiad o 19 y cant yn 2017-18 i 17 y cant yn y canlyniadau arolwg diweddaraf a ryddhawyd ar ddechrau mis Awst.

Mae'r ddwy set o ffigurau yn newyddion i'w groesawu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd mewn partneriaeth â'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn darparu cymorth am ddim, effeithiol ac wedi'i deilwra i roi'r gorau i smygu.

Meddai Ashley Gould, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus, ac Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Tybaco: “Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i estyn allan i smygwyr a'u gwneud yn fwy ymwybodol o'r gwasanaethau gwych sydd gan GIG Cymru ar gael iddynt, i'w helpu i gyflawni eu nod o fod yn ddi-fwg. Mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yn darparu meddyginiaeth am ddim i roi'r gorau i smygu a'r holl awgrymiadau a chymorth sydd eu hangen i roi'r gorau iddi, a dangoswyd mai'r rhain gyda'i gilydd yw'r ffordd fwyaf effeithiol o roi'r gorau iddi. 

“Felly mae'n hynod braf gweld bod dros 70,000 o bobl wedi'u trin gan wasanaethau Helpa Fi i Stopio dros y pum mlynedd diwethaf, sy'n cael ei ddarparu mewn clybiau gweithwyr, neuaddau tref, fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai sy'n hawdd eu cyrraedd.

“Mae rhoi'r gorau i smygu yn anodd, ond yn aml dyma'r prif beth y gall smygwyr ei wneud dros eu hiechyd, eu waledi a'u hanwyliaid. Mae saith o bob 10 o smygwyr yng Nghymru eisiau rhoi'r gorau iddi – Helpa Fi i Stopio yw'r ffordd orau o wneud i hynny ddigwydd.  Mae'r siawns o wneud ymgais lwyddiannus i roi'r gorau iddi bedair gwaith yn fwy gyda'n cymorth na cheisio mynd amdani ar eich pen eich hun. Mae hon yn neges rydym yn ceisio ei hanfon at y 190,000 o smygwyr yng Nghymru sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn.

“Mae llawer nad ydynt yn llwyddo, ond mae'r GIG yno i helpu, gan ddarparu gwasanaethau cyfeillgar drwy sesiynau grŵp, un i un, neu dros y ffôn. Bydd yr holl smygwyr sy'n gwneud ymgais i roi'r gorau iddi hefyd yn derbyn gwerth hyd at £250 o feddyginiaeth rhoi'r gorau i smygu am ddim.”

Os ydych yn smygwr sydd eisiau rhoi'r gorau iddi, ymunwch â'r degau o filoedd sy'n ceisio gwneud hynny gyda chymorth y GIG drwy chwilio am Helpa Fi i Stopio ar-lein, ffonio 0800 085 2219, neu decstio HMQ i 80818 a byddwn yn eich ffonio'n ôl.