Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgyfaint pawb yn bwysig...ar Ddiwrnod Dim Tybaco y Byd, a phob diwrnod arall

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi dod ynghyd i dynnu sylw at fanteision bywyd di-fwg ac i annog smygwyr yng Nghymru i feddwl am yr effaith hirdymor y mae smygu yn ei chael ar eu hysgyfaint.

Yng Nghymru mae tua 190,000 o smygwyr yn ceisio rhoi'r gorau iddi bob blwyddyn.  Rydym yn galw ar smygwyr i ddefnyddio Diwrnod Dim Tybaco y Byd fel y diwrnod i roi hwb i'w siawns o lwyddo drwy gysylltu â Helpa Fi i Stopio - y gwasanaeth cymorth lleol, cyfeillgar, am ddim gan GIG Cymru, ar 0800 085 2219.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod smygu yn ddrwg i'w hiechyd, ond mae ystadegau wedi dangos y gellir priodoli cyfran fawr o salwch anadlol i fwg ail-law.

Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru, “Gall rhieni sy'n smygu gael effaith sylweddol ar iechyd eu plant oherwydd bod y cemegau niweidiol mewn mwg tybaco yn fwy tebygol o effeithio ar ysgyfaint sy'n datblygu.  Gall anadlu mwg ail-law hefyd arwain at broblemau iechyd difrifol yn ddiweddarach mewn bywyd.

“Gellir diogelu iechyd plant, a gall hyd yn oed y rhai sydd â salwch anadlol weld gwelliant yn eu hiechyd, drwy roi'r gorau i smygu - nid yw byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi.”

Roedd mam Rachael Robert’s wedi smygu ran fwyaf o'i bywyd ond ar ôl cael diagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yn 50 oed, cafodd nerth i roi'r gorau iddi mewn ymgais i atal ei chyflwr rhag datblygu. 

Rhannodd Rachael, perfformwraig o Frynna, rai o'i hatgofion cynharaf o'i mam. “Roedd hi mor smart.

“Byddai ei ffrindiau yn dod draw a byddwn i'n eistedd yno yn eu gwylio yn gwisgo eu colur. Bydden nhw'n clebran bymtheg y dwsin gyda brwsh colur yn un llaw a sigarét yn y llall. Mae'n anodd credu bod gan smygu ddelwedd mor atyniadol bryd hynny a sut y byddai pobl yn dweud ei fod hyd yn oed yn gwneud lles i chi.”

Ar y diwrnod y cafodd ei mam ddiagnosis, roedd Rachael yn gweithio fel nyrs, “Rwy'n cofio cael gwybod bod yn rhaid i mi fynd i weld fy mam ar unwaith. Nid oedd yr un ohonom yn gwybod llawer am COPD, felly i ni roedd yn ddechrau'r diwedd. Roedd arni gymaint o eisiau byw nes iddi daflu ei phecyn sigaréts i'r bin ar unwaith.

“Buodd hi byw am 25 mlynedd arall ar ôl cael diagnosis a byddwn i'n casáu meddwl cymaint yn fyrrach y gallai'r amser hwnnw fod wedi bod pe na bai hi mor benderfynol o'r dechrau.”

Ni fydd rhoi'r gorau i smygu mor syml bob tro. Weithiau gall y daith tuag at fod yn ddi-fwg gymryd amser, a sawl ymdrech. Mae Helpa Fi i Stopio yn gwybod popeth am y teithiau hynny, ac yn helpu miloedd o smygwyr yng Nghymru i gyrraedd eu nodau a gwella iechyd eu hysgyfaint.

Dywedodd Ashley Gould, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae eich siawns o lwyddo yn eich ymgais i roi'r gorau iddi bedair gwaith yn fwy gyda chefnogaeth y GIG na thrwy geisio gwneud hynny ar eich pen eich hun.  Os ydych chi'n smygu ac eisiau gwella eich iechyd, a diogelu iechyd y bobl o'ch cwmpas, y dewis gorau y gallech ei wneud fyddai cysylltu â Helpa Fi i Stopio drwy ffonio 0800 085 2219; anfon neges destun i HMQ i 80818; neu fynd i www.helpafiistopio.cymru Bydd ein tîm yn eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth gorau sydd ar gael i roi'r gorau iddi.”