Neidio i'r prif gynnwy

Mae John Boulton wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/Cyfarwyddwr 1000 o Fywydau

Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn Gyfarwyddwr Interim, bod Dr John Boulton wedi'i benodi'n barhaol yn Gyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella. Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Medi 2019.

Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â John o'i waith ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ei sesiwn arloesol a hwyl ‘gêm roced’ yn ein cynhadledd staff ddiweddar.

Mae hon yn adeg gyffrous i John ac i 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau'n ddiweddar i greu Gweithrediaeth newydd y GIG i Gymru y bydd 1000 o Fywydau yn dod yn rhan ohoni.

Meddai John, “Mae'n bleser gennyf gael y cyfle hwn ar adeg o newid mawr i'r GIG yng Nghymru. Rwyf wedi mwynhau'r flwyddyn ddiwethaf yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi dod i adnabod llawer o'r bobl wych yn y sefydliad. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi'r gwaith anhygoel rydym yn ei wneud i wella iechyd a llesiant yng Nghymru.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gartref gwych i 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella. Wrth i ni ymuno â Gweithrediaeth GIG Cymru, rwy'n siŵr y daw llawer o gyfleoedd i'n Cyfarwyddiaeth yn y dyfodol”. 

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r pontio maes o law. 
Yn y cyfamser, bydd 1000 o Fywydau - Gwasanaeth Gwella yn parhau i weithredu fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Tracey Cooper 
Prif Weithredwr