Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynllun Gwên yn 10 oed!

Ym mis Medi, mae Cynllun Gwên, y rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant yng Nghymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. 

I nodi'r achlysur a dathlu llwyddiant y rhaglen hyd yma, mae tîm Cynllun Gwên yn cynnal digwyddiad dathlu wythnos o hyd - Wythnos Genedlaethol Cynllun Gwên.

Rhwng Dydd Llun 16 Medi a dydd Gwener 20 Medi, mae ysgolion a meithrinfeydd ledled Cymru yn cael eu hannog i gynnal gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar iechyd deintyddol da, pa un a yw hynny'n golygu cynnal gwasanaeth ysgol neu'n mynd ar daith ddosbarth i ddeintyddfa leol.

Mae tîm Cynllun Gwên wedi paratoi pecyn syniadau y gellir ei lawrlwytho i athrawon a staff meithrinfeydd sy'n chwilio am rywfaint o ysbrydoliaeth.

Mae yna gystadleuaeth genedlaethol tynnu lluniau hefyd sy'n gofyn i blant ar draws Cymru i ddylunio cerdyn pen-blwydd 10 oed ar gyfer Dewi, sef draig Cynllun Gwên. Ceir rhagor o fanylion am hyn ar wefan Cynllun Gwên.

Drwy gydol yr wythnos, caiff amrywiaeth o gynnwys ei rannu ar gyfrif Twitter newydd DS2 er mwyn amlygu uchafbwyntiau'r rhaglen a'i heffaith hyd yn hyn. Dilynwch @CynllunGwen neu'r hashnod#D2S10 i gael y diweddaraf.

Cynllun Gwên yw'r rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i atal pydredd dannedd ymhlith plant ifanc yng Nghymru. Cafodd y rhaglen ei chyflwyno mewn ardaloedd peilot yn 2009 a'i gweithredu'n genedlaethol yn 2009. Mae wedi'i thargedu i gyrraedd plant mewn ardaloedd lle mae lefelau pydredd dannedd ar eu huchaf, gyda'r nod o sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dechrau'r ysgol heb bydredd dannedd ac yn wên o glust i glust.